Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd £11.33m yn cael ei fuddsoddi mewn offer a gwasanaethau technoleg gwybodaeth ar gyfer y GIG.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio gan fyrddau iechyd a sefydliadau iechyd eraill i brynu offer newydd yn lle offer sydd wedi dyddio, i gryfhau systemau fel eu bod yn gallu gwrthsefyll ymosodiad seiber ac i wella seilwaith wrth gefn yn y GIG yng Nghymru.
Dywedodd Vaughan Gething:
"Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng yr holl fyrddau iechyd a sawl un o sefydliadau eraill y GIG, gan gynnwys Felindre a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
"Bydd yr arian hwn yn golygu bod sefydliadau'r GIG yn gallu prynu cyfrifiaduron a gliniaduron newydd, gwella cysylltedd WIFi a buddsoddi mewn gweinyddion, systemau storio a gwell systemau wrth gefn.
"Bydd systemau TG mwy effeithlon a mwy dibynadwy yn helpu pob elfen o'r GIG i weithio'n fwy effeithiol ac yn fwy hyblyg. Bydd hyn hefyd yn helpu i wella'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig i gleifion.
"Daw'r buddsoddiad hwn mewn ymateb i'r hyn a ddywed sefydliadau'r GIG y mae ei angen arnyn nhw i sicrhau bod eu seilwaith TG yn parhau i fod yn saff, yn ddiogel ac yn addas i'r diben ar gyfer y dyfodol."
Ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, bydd yr arian yn rhoi hwb pellach i'r dasg o gyflwyno System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru fesul cam. Drwy hyn, bydd yn bosibl rhannu gwybodaeth mewn modd diogel. Bydd hefyd yn help i ddarparu gwell gofal a chymorth drwy gysylltu gwasanaethau, gan gynnwys gofal cymdeithasol, gofal iechyd meddwl, nyrsys ardal, ymwelwyr iechyd a gwasanaethau i bobl hŷn.
Yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre, bydd yr arian sy'n cael ei ddyrannu'n mynd tuag at welliannau hanfodol i'r seilwaith, a fydd yn rhoi'r cyfle i weithredu a datblygu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y claf ar gyfer y dyfodol.