Cyfarfu'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething grŵp mamau ifanc heddiw i glywed gan iddynt eu barn a'u profiadau o gymorth gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd Vaughan Gething:
"Mae Llywodraeth Cymru'n credu mewn rhoi cymorth i rieni a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau posibl i'w bywydau.
“Yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i roi Rhaglen Plant Iach Cymru ar waith i sicrhau cysondeb wrth ddarparu gwasanaethau iechyd cyffredinol i blant hyd at saith oed. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys mesurau atal ac ymyrryd yn gynnar, yn ogystal â chyngor i helpu gyda magu plant a gwneud dewisiadau i fyw'n iach.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n cael clywed beth yw'r materion sydd o bwys i bobl y Gogledd ac rwy'n falch o gael y cyfle i gael sgwrs gyda'r grŵp hwn a chlywed beth yw eu barn a sut brofiadau maen nhw wedi'u cael."