Mae Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Syr Derek Jones, wedi penodi Gillian Baranski fel Prif Arolygydd newydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).
Bydd Ms Baranski, sydd ar hyn o bryd yn Brif Weithredwr CAFCASS Cymru, yn cymryd yr awenau gan y Prif Arolygydd presennol, Imelda Richardson, a fydd yn ymddeol ddiwedd y mis. Bydd yn cychwyn yn y swydd ar 10 Hydref.
Wrth gyhoeddi'r penodiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol: "Mae'n bleser gen i benodi Gillian fel Prif Arolygydd AGGCC. Mae ganddi hanes gyrfa rhagorol a hi yw'r person iawn i arwain AGGCC drwy ei phennod nesaf. Mae'n ymuno ar adeg pan fo deddfwriaeth newydd yng Nghymru'n darparu'r cyfle i wella ansawdd a sefydlogrwydd gofal cymdeithasol yma.
"Hoffwn i ddiolch i Imelda hefyd, am yr ymroddiad a'r arbenigedd mae wedi'u dangos wrth gyflawni'r swydd. Mae wedi goruchwylio'r gwaith o ddatblygu arolygiaeth a rheoleiddiwr blaengar sy'n gynhwysol ac yn gydweithredol, ac yn newid bywydau pobl er gwell. Rwy'n dymuno'n dda iddi ar ei hymddeoliad."
Dywedodd Gillian Baranski:
"Pleser o'r mwyaf yw cael fy mhenodi'n Brif Arolygydd AGGCC. Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas wrth amddiffyn a gofalu am bobl agored i niwed. Rwy'n edrych ymlaen at yr her newydd hon i helpu i wella gwasanaethau gofal cymdeithasol ehangach yng Nghymru."
Dywedodd Imelda Richardson, y Prif Arolygydd sy'n ymddeol:
"Hoffwn i estyn croeso cynnes i Gillian i'r Arolygiaeth yn ei swydd newydd fel Prif Arolygydd. Edrychaf ymlaen at weld y sefydliad yn mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd nesaf.
Mae'n ymuno â sefydliad lle mae staff a phartneriaid yn cydweithio â dinasyddion, darparwyr gwasanaethau, sefydliadau o fewn y sector, ac arolygiaethau eraill i wella gwasanaethau gofal. Mae wedi bod yn fraint cael gweithio gyda phobl mor ymroddedig a phroffesiynol, ac ochr yn ochr â nhw, ar bob lefel."