Mae’r broses benodi ar agor nawr ar gyfer aelodau Bwrdd y corff newydd, Gofal Cymdeithasol Cymru.
O dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, mae Cyngor Gofal Cymru yn cael enw newydd, sef Gofal Cymdeithasol Cymru, ac mae’r corff hefyd yn cael pwerau newydd. Yn ogystal â rheoleiddio a datblygu’r gweithlu, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gyfrifol am gyflwyno gwelliannau ar draws y sector gofal cymdeithasol – bydd hyn yn newid mawr i’r maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn dod i rym ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda phobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, ac amrywiaeth eang o sefydliadau, i arwain ar welliannau mewn gofal cymdeithasol. Rydyn ni’n recriwtio bwrdd o aelodau a fydd yn frwdfrydig am wella gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac wedi ymrwymo i wneud hynny.
“Nod y Bwrdd fydd sicrhau bod pobl Cymru yn gallu dibynnu ar weithlu gofal cymdeithasol o ansawdd uchel, a fydd yn darparu gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion yn llawn. Bydd yn diogelu’n well y bobl hynny sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, yn cefnogi’r gweithlu i ddatblygu ac yn gwella ansawdd gofal a chymorth yng Nghymru.
“Rwyf am weld Bwrdd sydd mor amrywiol â phobl Cymru, sy’n cynnwys unigolion gydag amrywiaeth eang o arbenigedd, sgiliau a phrofiad o ofal cymdeithasol. Rydym yn chwilio am ofalwyr, defnyddwyr gwasanaethau, gweithwyr gofal cymdeithasol ac aelodau o’r cyhoedd a all helpu i wella gofal cymdeithasol yng Nghymru. Os ydych chi’n bodloni’r gofynion hyn, neu os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n eu bodloni, byddwn yn eich annog i ymweld â’r wefan.”
Pwysleisiodd Arwel Ellis Owen, Cadeirydd Cyngor Gofal Cymru, a fydd hefyd yn Gadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru am y ddwy flynedd gyntaf, alwad y Gweinidog i amrywiaeth eang o aelodau posibl fynegi diddordeb. Dywedodd:
“Mae’n amser cyffrous i gymryd rhan mewn polisi cyhoeddus yng Nghymru. Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn adeiladu ar lwyddiant Cyngor Gofal Cymru a nod y corff hwnnw o ddarparu sicrwydd i’r cyhoedd a gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar proffesiynol a chynaliadwy, gyda chefnogaeth dysgu o’r radd flaenaf.
“I wireddu hyn, mae arnom ni angen Bwrdd cadarn ac annibynnol. Bydd y Bwrdd yn gyrru’r agendau gwella amrywiol, fel gofal a chymorth yn y cartref, plant sy’n derbyn gofal ac unigolion â dementia.
“Dw i wir yn gobeithio y bydd pobl yn cael eu hysbrydoli i fod yn rhan o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd gan y Bwrdd ddim mwy na 14 o aelodau, a fydd yn dod o bob cwr o Gymru, a chanddynt bob math o gefndir a phrofiad bywyd. Mae’n gyfle unigryw i ddod yn aelod o gorff newydd a fydd yn gyfrifol am arwain y sector gofal.”
I ddysgu mwy am y corff Gofal Cymdeithasol Cymru ac i wneud cais, ewch i: www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus