Mae Prif Swyddog Meddygol newydd Cymru, Dr Frank Atherton, yn dechrau ar ei waith heddiw.
Fel Prif Swyddog Meddygol Cymru, bydd Dr Atherton yn gyfrifol am ddarparu cyngor proffesiynol annibynnol i'r Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cabinet ynglŷn â materion yn ymwneud ag iechyd ac iechyd y cyhoedd. Bydd hefyd yn gweithio gyda sefydliadau trwy Gymru i leihau anghydraddoldeb ym maes iechyd, ac i wella iechyd.
Bydd hefyd, yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru, yn arwain y proffesiwn meddygol yng Nghymru er mwyn gwella ansawdd gofal iechyd a chanlyniadau i gleifion.
Daw Dr Atherton yn wreiddiol o Swydd Gaerhirfryn ac mae wedi bod yn gweithio fel Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Iechyd yn yr Adran Iechyd a Lles yn Nova Scotia, Canada. Bu hefyd yn Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yng Ngogledd Swydd Gaerhirfryn ac yn Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y DU.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething AC:
“Mae gan Dr Atherton brofiad helaeth o weithio ar lefel uchel ym maes iechyd y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig a thramor ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio ag ef. Rwy’n falch iawn ei fod wedi ymuno â ni wrth inni weithio i wella iechyd a llesiant a hoffwn estyn croeso cynnes iddo i Gymru.”
Dywedodd Dr Atherton:
“Mae bod yn Brif Swyddog Meddygol yng Nghymru yn rhoi cyfle gwych imi weithio gyda phobl a sefydliadau drwy’r wlad i greu’r amodau a fydd y galluogi pobl i fyw bywydau iachach, gan adeiladu ar seiliau’r Ddeddf Teithio Llesol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at fynd ati i roi’r polisïau blaengar ac arloesol hyn ar waith.”
Mae Dr Atherton yn cymryd lle Dr Ruth Hussey, a ymddeolodd yn gynharach eleni.