Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i bobl sydd wedi derbyn triniaeth am ganser gan GIG Cymru am eu barn am y gofal a gawsant.
Bydd yr arolwg yn dechrau cyrraedd cartrefi 11,000 o gleifion canser yr wythnos nesaf, gan roi cyfle iddynt nodi gradd ar gyfer y gofal a gawsant. Bydd y canlyniadau, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn 2017, yn cael eu defnyddio i wella’r gofal a roddir i gleifion canser yng Nghymru.
Dyma’r ail Arolwg o Brofiad Cleifion Canser i’w gynnal gan Lywodraeth Cymru a Chymorth Canser Macmillan. Dangosodd arolwg 2013 bod 89% o’r cleifion a holwyd wedi dweud bod y gofal a gawsant yn rhagorol neu’n dda iawn, ond roedd yr arolwg hwn hefyd yn tynnu sylw at feysydd lle'r oedd angen gwelliannau. Un maes felly oedd yr angen i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio mwy ar y claf, ac oherwydd hynny rhoddwyd mwy o sylw i weithwyr allweddol megis nyrsys canser arbenigol, asesiadau holistaidd o anghenion, a gwella ffyrdd o gynllunio gofal.
Bydd yr arolwg yn cael ei lansio yn stondin Macmillan ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru, a bydd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn bresennol.
Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd:
“Mae gwrando ar brofiadau go iawn pobl sydd wedi derbyn triniaeth am ganser yn rhoi darlun gonest inni o safon y gofal sy’n cael ei ddarparu gan y GIG. Mae sylwadau a phrofiadau cleifion yn gyfle i weld yn glir pa anghenion sydd gan bobl â chanser, ac mae’r arolwg yn gofyn a yw’r anghenion hynny’n cael eu diwallu’n llawn gan ein gwasanaeth iechyd.
“Yn ogystal â dangos lle gellir gwella, mae’r arolwg hefyd yn tynnu sylw at feysydd lle mae’r arferion gorau ar waith, er mwyn eu rhannu ledled y sefydliad a’u defnyddio i godi’r safonau drwyddi draw.
“Felly, hoffwn annog yr holl gleifion sy’n cael yr arolwg i gyfrannu ato, naill ai drwy’r post neu ar-lein, gan ddweud wrthym am eu profiadau personol wrth gael eu trin am ganser.”
Dywedodd Susan Morris, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru:
“Mae Macmillan yn falch o gael y cyfle i gynnal yr ail Arolwg o Brofiad Cleifion Canser yng Nghymru, a hynny ar y cyd â Llywodraeth Cymru, er mwyn gofyn i oddeutu 11,000 o bobl sydd wedi cael eu trin am ganser yng Nghymru y llynedd am eu barn ynghylch y gofal a gawsant.
“Rydym wrth ein bodd bod Ysgrifennydd y Cabinet yn lansio’r arolwg ar ein bws yn Sioe Frenhinol Cymru, gan fod hwn yn gyfle pwysig i bobl gael dweud eu dweud ynghylch pob rhan o’r gofal canser y maen nhw wedi ei dderbyn.
“Gwnaeth canlyniadau’r arolwg diwethaf helpu’r llywodraeth, y GIG, a sefydliadau fel Macmillan i ddeall yn well deimladau cleifion o ran yr hyn sy’n gweithio’n dda ym maes gofal canser, ac yn union lle mae angen gwella.”