Vaughan Gething wedi codi ymwybyddiaeth ynghylch y cyfleoedd ardderchog am swyddi a gyrfaoedd sy’n bodoli gyda’r GIG yng Nghymru.
Roedd y Gynhadledd Ehangu Mynediad yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o annog unigolion i ystyried gyrfa gyda’r GIG, a thynnu sylw at gyfleoedd i’r staff presennol ddatblygu eu gyrfaoedd.
Dywedodd Vaughan Gething:
“Mae dros 300 o swyddogaethau gwahanol o fewn y Gwasanaeth Iechyd, o feddygon i ddeintyddion, o nyrsys i niwroffisiolegwyr, o barafeddygon i borthorion, o radiograffwyr i staff y dderbynfa a llawer mwy.
“Mae pob un o’r swyddi hyn yn gofyn am set o sgiliau, rhai o’r sgiliau hynny’n fwy cyffredinol, ac eraill yn rhai penodol i’r swydd; mae hynny’n golygu bod amrywiaeth eang o gyfleoedd am swyddi gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Boed drwy weithio gydag ysgolion cynradd i gyflwyno’r Gwasanaeth Iechyd i’r plant bach drwy chwarae; neu gyfleoedd am brofiad gwaith sydd wedi’u llunio i roi blas ar fyd gwaith i fyfyrwyr hŷn, mae cymaint o fentrau cadarnhaol eisoes yn bodoli i annog pobl, beth bynnag eu hoedran neu gefndir, i ystyried gyrfa gyda’n Gwasanaeth Iechyd anhygoel.
“Mae ‘na brentisiaethau, rhaglenni mynediad a mentrau eraill i helpu i gefnogi pobl ifanc. Rydyn ni wedi ymrwymo i gynyddu nifer y prentisiaethau i bobl o bob oed – rhaid i ni sicrhau ein bod yn llunio’r prentisiaethau hyn mewn ffordd sy’n adlewyrchu anghenion y Gwasanaeth Iechyd.
“Mae’n fwy na’r ifanc yn unig, mae ehangu mynediad hefyd yn golygu helpu unigolion i newid gyrfa a chefnogi’r rhai sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl seibiant yn eu gyrfa, ac rydyn ni’n gwneud hynny.
“Ond mae modd gwneud mwy, ac fe fyddwn yn gwneud mwy.
“Mae’n Gwasanaeth Iechyd yn destun parch ac edmygedd ar draws y byd. Y gweithwyr yw curiad calon y gwasanaeth, ac rwy’n annog unrhyw un sydd ag ymroddiad, brwdfrydedd ac awydd i helpu pobl i ystyried gyrfa gyda’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”