Bydd Vaughan Gething yn dweud wrth Aelodau’r Cynulliad heddiw bod system flaengar Cymru ar gyfer rhoi organau wedi achub dwsinau o fywydau yn ystod y chwe mis cyntaf ers dod i rym.
Mae’r system - a elwir yn system feddal o optio allan neu gydsyniad tybiedig - yn caniatáu i bobl sydd am fod yn rhoddwr organau naill ai gofrestru penderfyniad optio i mewn neu wneud dim. I’r rhai sy’n dewis gwneud dim, os ydynt yn 18 oed neu’n hŷn, wedi byw yng Nghymru am fwy na 12 mis a hefyd yn marw yng Nghymru, byddant yn cael eu hystyried fel rhywun sydd heb wrthwynebiad i roi organau.
Dengys y ffigurau bod 10 allan o’r 31 o bobl a fu farw ac a roddodd eu horganau rhwng 1 Rhagfyr 2015 a 31 Mai 2016 wedi gwneud hynny drwy gydsyniad tybiedig, gan nad oeddent wedi cofrestru penderfyniad i optio i mewn nac optio allan.
Trawsblannwyd cyfanswm o 60 o organau yn ystod y cyfnod hwn, 32 ohonynt gan bobl y tybiwyd eu bod yn rhoi caniatâd.
O gymharu â’r ffigurau rhoi organau cyn y newid yn y gyfraith, mae’r niferoedd hyn yn galonogol iawn: rhoddodd 23 o bobl eu horganau yn ystod yr un cyfnod yn 2014-15 a 21 yn yr un cyfnod yn 2013-2014.
Mae pobl Cymru wedi croesawu’r ddeddfwriaeth flaengar hon, gyda’r arolwg diweddaraf ym mis Chwefror 2016 yn dangos bod 74% o’r cyhoedd yn ymwybodol o’r newidiadau i’r system.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething AC yn dweud yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw:
“Mae rhoi organau yn broses gymhleth, ond y prif reswm dros golli organau posib yw diffyg cydsyniad. Rwy’n eithriadol o falch fod Cymru’n arwain y ffordd ac mai ni yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio. Rwy’n disgwyl i’r system newydd greu newid sylweddol o ran cydsynio i roi organau yng Nghymru. Wrth edrych ar y ffigurau cynnar yma, mae’n ymddangos bod hynny’n digwydd.
“Cyflwynwyd y gyfraith hon i roi sylw i’r prinder difrifol o organau i’w trawsblannu yng Nghymru, ac rwy’n siŵr ein bod ni i gyd wedi clywed straeon torcalonnus am unigolion sydd ar restrau aros am organau.
“Hoffwn ddiolch o waelod calon i bobl Cymru am groesawu’r ddeddfwriaeth flaengar hon a hefyd am gymryd amser i ystyried, trafod a chofrestru penderfyniad am roi organau.”
Daw datganiad Ysgrifennydd y Cabinet cyn ymgyrch newydd a fydd yn dechrau yn yr haf gyda’r nod o annog mwy o bobl ifanc i siarad am eu penderfyniad ynghylch rhoi organau gyda’u hanwyliaid, ac i atgoffa pobl am yr opsiynau sy’n eu hwynebu dan y system newydd.