Canmolodd Vaughan Gething y proffesiwn hefyd am ei ymrwymiad i gynllun Dewis Fferyllfa Llywodraeth Cymru.
Cafodd unigolion a thimau eu cydnabod am y gofal fferyllol gwych maen nhw’n ei ddarparu i bobl ar draws Cymru yng Ngwobrau Fferylliaeth Cymru. Roedd y Gwobrau yn canolbwyntio ar bwysigrwydd rhannu arferion gorau.
Canmolodd Vaughan Gething y proffesiwn hefyd am ei ymrwymiad i gynllun Dewis Fferyllfa Llywodraeth Cymru. O dan y cynllun hwn, mae fferyllwyr yn cymryd cyfrifoldeb am reoli amrywiaeth o fân anhwylderau – mae hyn yn sicrhau bod meddygon teulu yn rhydd i roi sylw i gleifion sydd ag anghenion mwy cymhleth.
Dywedodd Vaughan Gething:
“Roeddwn i wrth fy modd o gael bod yng Ngwobrau Fferylliaeth Cymru i ddathlu sgiliau ac ymroddiad fferyllwyr ledled Cymru sy’n rhoi cyngor a thriniaeth o safon i gleifion o ddydd i ddydd.
“Hoffwn i ganmol y ffordd mae’r proffesiwn wedi ymgymryd â’r gwasanaeth Dewis Fferyllfa yn arbennig. Drwy alluogi pobl â mân anhwylderau i weld fferyllwyr sydd â sgiliau rhagorol i gael gwybodaeth a thriniaeth, mae’r cynllun hwn yn galluogi ein meddygon teulu i ganolbwyntio ar bobl ag anghenion mwy cymhleth a lleihau amseroedd aros i gleifion.”
Rhoddodd Vaughan Gething bwyslais hefyd ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fferyllwyr cymunedol: “Mae fferyllwyr cymunedol yn rhan annatod o wasanaeth gofal sylfaenol cadarn. Dw i’n falch o barhau i weithio gyda chontractwyr fferyllol i sicrhau bod fferyllwyr cymunedol yn chwarae cymaint o rôl â phosibl, er mwyn codi safon y gofal maen nhw’n ei ddarparu a’r amrywiaeth o wasanaethau maen nhw’n ei gynnig.”