Heddiw mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi cyhoeddi £850,000 i adeiladu Canolfan Maggie dros dro ar safle Canolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd.
Lleolir Canolfannau Maggie yn nhiroedd canolfannau canser mawr ac maent yn cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl sydd â chanser, eu teuluoedd a'u cyfeillion. Canolfannau annibynnol ydynt ond maent yn gweithio mewn partneriaeth â'r GIG ledled y DU.
Lleolir y ganolfan dros dro a gyhoeddwyd heddiw yng Nghanolfan Ganser Felindre yn yr Eglwys Newydd. Bydd y ganolfan yn darparu gwasanaeth cymorth ar gyfer canser i bobl yn Ne-ddwyrain Cymru gyda'r ateb parhaol yn cael ei gynnig fel rhan o ddatblygiad Ysbyty Canser Felindre a fydd yn agor yn 2022. Mae cyfleoedd i ail-leoli ac ailddefnyddio'r ganolfan dros dro yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
“Mae llawer ohonon ni'n adnabod rhywun sydd wedi brwydro canser ac wedi gweld yn uniongyrchol yr effaith nid yn unig arnyn nhw ond hefyd eu cyfeillion a'u teuluoedd.
“Mae Canolfannau Maggie yn gwneud gwaith rhagorol wrth ddarparu cymorth a chyngor proffesiynol i'r rhai sydd â chanser ac y mae'r clefyd wedi cyffwrdd â'u bywydau. Dyna pam rydw i mor falch o allu cyhoeddi'r cyllid newydd hwn heddiw.
“Rydyn ni'n gwybod bod canser yn effeithio ar nifer cynyddol o bobl yng Nghymru. Rydyn ni'n falch bod cyfraddau goroesi canser yn parhau i wella, ond rydyn ni'n gwybod bod mwy o waith i'w wneud o hyd.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i wella a darparu'r driniaeth a'r gofal gorau i bobl sydd â chanser yng Nghymru. Mae ein cynllun cyflawni ar ei newydd wedd ar gyfer Canser yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol darparu gofal canser sy'n canolbwyntio ar y person.
“Ochr yn ochr â gwelliannau ym maes goroesi canser, rydyn ni'n falch o weithio gyda Maggie's i helpu i sicrhau bod gwasanaethau'n diwallu anghenion pobl. Bydd y cyllid rydw i wedi'i gyhoeddi heddiw'n ein helpu i ddarparu'r gofal gorau i bobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw yn Ne-ddwyrain Cymru.”
Dywedodd Laura Lee, Prif Weithredwr Maggie’s:
“Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyllid i ddatblygu Canolfan Maggie Caerdydd a gaiff ei lleoli yng Nghanolfan Ganser Felindre.
"Mae'n gyffrous iawn sefydlu Canolfan Maggie y mae galw mawr amdani yn Felindre a fydd yn gwasanaethu holl boblogaeth De-ddwyrain Cymru.
"Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae mwy a mwy o bobl wedi bod yn teithio cryn bellter i ganolfan Maggie yn Abertawe, felly rydyn ni wrth ein bodd o gael y cyfle i greu ail ganolfan yng Nghymru.”
Dywedodd Syr Roger Jones, Cadeirydd Bwrdd Codi Arian Maggie's:
“Pan gerddais drwy ddrws Canolfan Maggie yn Abertawe, fe welais ei bod yn ganolfan ragoriaeth ag amgylchedd tawel a llonydd. Mae'r staff yn ofalgar ac yn llawn gwybodaeth ac yn meddu ar rywbeth sydd ddim gan glinigwyr - sef amser; amser i helpu pobl, eu teuluoedd a'u cyfeillion trwy eu profiad o ganser. Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae'n wych gallu dod â Chanolfan Maggie i Gaerdydd a phobl De-ddwyrain Cymru.”
Dywedodd Andrea Hague, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Canser yn Felindre:
“Mae Canolfannau Maggie yn rhoi cymorth gwerthfawr iawn i gleifion a’u teuluoedd, i’w helpu drwy eu profiadau gyda chanser. Mae’r cyhoeddiad y bydd Canolfan Maggie Caerdydd yn cael ei sefydlu ar garreg ein drws yn Felindre yn newyddion da iawn, gan y bydd y gwasanaethau cymorth ychwanegol hyn ar gael i’n cleifion yn hawdd ac yn hwylus."