Heddiw, bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfarfod o'r Cabinet yn y Gogledd yn dilyn cyfres o gyfarfodydd ar Ynys Môn i drafod yr ynys ac economi'r ardal yn benodol.
Heddiw, bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfarfod o'r Cabinet yn y Gogledd yn dilyn cyfres o gyfarfodydd ar Ynys Môn i drafod yr ynys ac economi'r ardal yn benodol.
Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyfarfod â chynrychiolwyr o Horizon yn yr Wylfa, cyn cynnal cyfarfod ag arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn a chyfarfod bord gron o gynrychiolwyr cyngor a busnes o bob cwr o'r Gogledd. Bydd Ken Skates, y Gweinidog dros yr Economi a Gogledd Cymru yn ymuno â'r Prif Weinidog.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Un o'm blaenoriaethau cyntaf oedd sicrhau bod gan y Gogledd lais cryf yn y llywodraeth ac yn y Cabinet er mwyn inni roi ffocws pendant ar yr ardal a'i dyfodol.
“Penodais Ken Skates fel Gweinidog â chyfrifoldeb dros y Gogledd. Mae cynnal cyfarfod y Cabinet yn y Gogledd ar ddechrau fy nghyfnod fel Prif Weinidog wedi bod yn rhan o'r ymdrech honno.
“Mae'r Gogledd wedi cael newyddion caled dros yr wythnosau diwethaf, ac mae'r ansicrwydd sy'n dod gyda Brexit yn achos pryder i fusnesau ar draws yr ardal – mae barn cwmni Airbus, er enghraifft, wedi dod yn gwbl glir dros yr wythnos ddiwethaf.
“Ond rhaid inni gyflawni dros Ogledd Cymru, ac fe wnawn ni hynny. Rydyn ni wedi ymrwymo i'r ardal ac rydyn ni'n buddsoddi yn economi'r ardal.
"Byddwn ni'n darparu unrhyw gymorth y gallwn ni i gefnogi unigolion a chwmnïau sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyhoeddiadau diweddar. Bydda i'n gwrando'n ofalus ar beth fydd gan bobl i'w ddweud wrtha i heddiw.
“Dw i wedi galw cyn hyn ar Lywodraeth y DU i roi model cyllido ar waith a fydd yn gwireddu prosiectau seilwaith mawr fel Wylfa Newydd – ac rwy'n galw arnyn nhw i wneud hynny eto heddiw.”
Dywedodd Ken Stakes, Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
“Mae gennym ni gysylltiadau cadarn, sydd wedi cael eu meithrin ar draws y Gogledd ers blynyddoedd. Mae'r rhain yn hanfodol nawr wrth inni weithio gyda'n gilydd i ymateb i'r cyhoeddiadau am Wylfa Newydd a Rehau ac i heriau Brexit.
“Mae ein hymrwymiad i'r Gogledd yn glir. Rydyn ni'n buddsoddi mwy nag erioed mewn trafnidiaeth yn yr ardal, gyda gwerth £600m o ddatblygiadau wedi'u cynllunio. Mae'r rhain yn cynnwys y ffordd osgoi rhwng Caernarfon a'r Bontnewydd, ac mae gwaith wedi dechrau ar honno’n barod. Rydyn ni'n symud ymlaen gyda chamau nesaf y drydedd bont dros Afon Menai. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys penodi cynghorwyr technegol i ddatblygu manylion y cynllun gyda rhanddeiliaid ac rydyn ni hefyd yn gwneud cynnydd ar brosiect hanfodol Coridor yr A494 i'r A55 yn Sir y Fflint.
“Mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi'n helaeth i gefnogi economi'r Gogledd yn y tymor hir, gan gynnwys £20m mewn Cyfleuster Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch newydd ym Mrychdyn.
“Rydyn ni wedi buddsoddi £20m o gyllid Llywodraeth Cymru ac Ewropeaidd ym Mharc Gwyddoniaeth Menai ar Ynys Môn. Mae blwyddyn gyntaf y parc wedi bod yn llwyddiannus, ac rydyn ni wedi addo darparu arian cyfatebol i'r hyn mae Llywodraeth y DU yn ei roi i Fargen Twf y Gogledd. Rydyn ni hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i gyfrannu mwy eto er mwyn sicrhau bod yr ardal yn gallu elwa i’r eithaf ar y fargen hon.”
Bydd y cyfarfod Cabinet yn swyddfa Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno.