Neidio i'r prif gynnwy

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn rhoi rhybudd llym i Theresa May wrth i ddyddiad Brexit agosáu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Chwe mis cyn i'r DU ymadael â'r UE, mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud bod rhaid i Brif Weinidog y DU roi'r gorau i gamarwain y cyhoedd â honiadau am Brexit nad ydynt yn wir.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae honiad Theresa May mai'r unig ddewis sydd ar gael i ni yw cytundeb Chequers neu ddim cytundeb o gwbl yn anwiredd llwyr - ac mae parhau â'r anwiredd hwn yn niweidio democratiaeth.

"Mae'n hollol anghyfrifol gorfodi pobl i ddewis rhwng Brexit caled trychinebus a sefyllfa gwbl gatastroffig o fod heb gytundeb. Drwy fynnu bod rhaid i'r wlad ddewis un o ddwy sefyllfa wael, mae'n codi tensiynau ac achosi dryswch ar adeg pan fo angen meddwl clir a siarad yn synhwyrol.

"Mae fy Llywodraeth i wedi dangos bod ffordd arall ar gael a fyddai'n diogelu swyddi a'n heconomi, ac sy'n gyson â chanlyniad y refferendwm a safbwynt negodi'r Undeb Ewropeaidd."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynigion cadarn yn seiliedig ar weld y DU yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl ac mewn undeb tollau. Mae Diogelu Dyfodol Cymru – a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2017 - yn gynllun ymarferol, seiliedig ar dystiolaeth, a all gyflawni ar gyfer pob rhan o'r Deyrnas Unedig.

"Yr unig ffordd o ddiogelu swyddi ac economi Cymru yw drwy sicrhau mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl a chytuno ar undeb tollau.

“Byddai Brexit heb gytundeb yn golygu bod y Deyrnas Unedig yn dlotach, wedi'i hynysu yn rhyngwladol, a hyd yn oed yn fwy rhanedig adref. Byddai'n amharu'n sylweddol ar sawl maes ac yn achosi niwed difrifol i bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Dydy hyn ddim yn opsiwn, a dim ond twyll yw unrhyw honiad i'r gwrthwyneb. Byddai'n fethiant trychinebus ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a'r unig rai fyddai'n cael eu plesio yw'r llond dwrn o gefnogwyr byrbwyll Brexit eithafol sy'n benderfynol o danseilio'r mesurau diogelu cymdeithasol ac amgylcheddol rydyn ni'n eu mwynhau, heb boeni dim am ddinistrio'n cysylltiadau â'n partner masnachu pwysicaf.

“Gyda dim ond chwe mis i fynd, rhaid i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig roi buddiannau'r wlad o flaen buddiannau ei phlaid, a gweithio gyda'r Undeb Ewropeaidd i ddod i gytundeb sy'n diogelu ffyniant a llesiant pobl ar draws y Deyrnas Unedig.”