Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi rhagor o gymorth busnes i Airbus a chwmnïau sy’n cynhyrchu rhannau ar gyfer moduron o Gronfa Bontio'r UE.
Bydd y cymorth hwn yn help mawr i wella’r cyfleoedd o ddatblygu eu safleoedd yng Nghymru fel lleoliadau a ffefrir ar gyfer unrhyw brosiectau buddsoddi Ewropeaidd yn y dyfodol ac ar ôl Brexit.
Cyhoeddwyd y Gronfa Bontio ym mis Ionawr 2018, ac mae eisoes yn darparu cymorth ariannol yn uniongyrchol i sectorau ar draws Cymru er mwyn cynllunio a pharatoi ar gyfer y newidiadau sylweddol a ddaw yn sgil Brexit. Mae nifer o brosiectau eisoes wedi elwa ar £7.4 miliwn o gyllid, gan gynnwys cymorth i'n sectorau amaethyddiaeth a physgodfeydd, yn arbennig £2.15 miliwn i ddatblygu'r sector cig coch yng Nghymru.
Ar ben hynny, mae £150,000 wedi'i ddarparu i helpu i roi pecyn cymorth Brexit i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, a £200,000 i helpu'r sector gofal cymdeithasol i ymchwilio i effaith bosib Brexit ar y gweithlu a'u cynorthwyo i gynllunio ar gyfer pob sefyllfa bosib. Derbyniodd prifysgolion Cymru £3.5 miliwn hefyd i ysgogi partneriaethau rhyngwladol a hyrwyddo Cymru fel man astudio ar ôl Brexit.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Mae Brexit yn cyflwyno cyfres o heriau a chyfleoedd i fusnesau Cymru, a'm blaenoriaeth i yw sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau bosib i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl Brexit.
"Mae'r cyllid rwy'n ei gyhoeddi heddiw o Gronfa Bontio'r Undeb Ewropeaidd yn mynd i ddarparu'r cymorth sydd dirfawr ei angen i helpu'r diwydiannau pwysig hyn."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Mae Cronfa Bontio'r Undeb Ewropeaidd yn rhoi cyfle da i ni ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar fusnesau Cymru i roi sgiliau trosglwyddadwy i'w gweithlu er mwyn i Gymru barhau i fod yn amlwg ar lwyfan y byd."