Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn ymweld â Berlin heddiw i agor yn swyddogol y gyntaf o ddwy swyddfa newydd Llywodraeth Cymru yn yr Almaen.
Bydd ein swyddfeydd newydd yn agor yn Berlin a Dusseldorf, a byddant yn gweithio i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa i ddatblygu cysylltiadau masnach cryf ar ôl Brexit.
Mae hyn yn rhan o'r gwaith o ehangu gweithrediadau tramor Llywodraeth Cymru er mwyn diogelu marchnadoedd sy'n bodoli eisoes, yn ogystal â mynd ati i greu cyfleoedd buddsoddi newydd a hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd.
Yr Almaen yw prif gyrchfan allforio Cymru, ac roedd allforion Cymru i'r Almaen yn werth £3.2 biliwn yn 2017, sef cynnydd sylweddol o 7.8% ar y flwyddyn flaenorol.
Mae Cymru wedi gweld y lefelau mewnfuddsoddi uchaf erioed yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, ac ar yr un pryd mae lefel yr allforion o Gymru yn parhau'n uchel iawn. Yn 2017, roedd allforion Cymru yn werth £16 biliwn, sef cynnydd o £2.39 biliwn ar y flwyddyn flaenorol. Mae bron 60% o fasnach Cymru yn digwydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae 90 o gwmnïau yng Nghymru sydd o dan berchnogaeth pobl o'r Almaen, ac mae'r cwmnïau hyn yn cyflogi oddeutu 13,500 o weithwyr. Maent yn cynnwys Arvato Bertelsmann yn Abertawe, Continental Teves yng Nghlynebwy, Ensinger yn Nhonyrefail, RWE yn Nolgarrog, Aberddawan, Penfro, Port Talbot a Llandudno, a Siemens yng Nghaernarfon, Cil-y-coed a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae Llywodraeth Cymru yn helpu cwmnïau o Gymru i ddatblygu eu busnes allforio yn yr Almaen. O ganlyniad uniongyrchol i gymorth Llywodraeth Cymru, yn ystod y llynedd yn unig, llwyddodd 21 o gwmnïau o Gymru i sicrhau cytundebau masnach gyda'r Almaen, ac roedd cyfanswm y cytundebau hynny’n werth £5.23 miliwn.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
“Mae'r Almaen o bwys canolog i economi Cymru; dyma'n prif gyrchfan allforio i nwyddau o Gymru, ac mae hefyd yn fewnfuddsoddwr pwysig, gyda Chymru yn denu bron 6% o holl fuddsoddiadau'r Almaen yn y DU.
“Drwy agor y ddwy swyddfa newydd hyn yn yr Almaen, rydyn ni'n datgan yn uchel ac yn glir i'n partneriaid yn Ewrop bod Cymru ar agor am fusnes, a'n bod ni'n benderfynol o weld ein perthynas fuddiol gyda'r UE yn parhau ar ôl Brexit.
“Drwy sicrhau mwy o bresenoldeb i Gymru yn yr Almaen, gallwn ni fynd ati i greu cyfleoedd masnach a buddsoddi newydd, adeiladu rhwydweithiau, a chodi proffil Cymru. Mae hyn yn bwysicach nag erioed wrth i ni ymbaratoi ar gyfer dyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
“Rydyn ni hefyd yn awyddus i groesawu mwy o fyfyrwyr o'r Almaen i'n prifysgolion gwych. Bydd ein dwy swyddfa newydd yn yr Almaen yn golygu y byddwn ni'n gallu rhoi cymorth gwell i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn dod yma. Bydd hefyd yn ein helpu i ddatblygu'r berthynas fuddiol hon rhwng y ddwy ochr."
Mae oddeutu 680 o fyfyrwyr o'r Almaen yn astudio mewn prifysgolion a cholegau yng Nghymru. Mae Abertawe ac Aberystwyth yn brifysgolion o fri sydd eisoes wedi datblygu dros 15 o bartneriaethau gyda phrifysgolion ar draws yr Almaen.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n paratoi ar gyfer agor dwy swyddfa arall mewn gwahanol rannau o'r byd eleni - sef yn Doha a Paris.