Mae'r Prif Weinidog yn cwrdd â Michel Barnier ym Mrwsel lle bydd yn galw am fwy o hyblygrwydd gan 27 gwlad yr UE i ddod i gytundeb Brexit ymarferol yn seiliedig ar werthoedd cyffredin.
Yn ei ail gyfarfod â Phrif Negodydd Ewrop, bydd y Prif Weinidog yn pwysleisio unwaith yn rhagor, er bod Llywodraeth Cymru am weld y DU yn parhau i fod yn rhan o'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau, y dylai papur gwyn Llywodraeth y DU agor y drws ar gyfer dechrau negodiadau difrifol.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cwrdd â Chynrychiolydd Parhaol y DU i'r UE, Syr Tim Barrow ym Mrwsel, ac yn rhoi anerchiad yn y Ganolfan Polisïau Ewropeaidd. Yn ystod ei anerchiad, bydd y Prif Weinidog yn ailddatgan blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, yn ystyried sefyllfa negodi Llywodraeth y DU ac yn ystyried sut y gall y DU a 27 gwlad yr UE gydweithio i sicrhau bargen Brexit sy'n fanteisiol i'r ddwy ochr.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd y Prif Weinidog:
"Er bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn gwrthod cyfaddef bod ei llinellau coch annoeth yn perthyn i'r gorffennol, mae wedi mynd ati, o'r diwedd, i amlinellu sefyllfa negodi cymharol gredadwy.
"Mae Papur Gwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi parhau i gymryd rhan yn rhannol yn y Farchnad Sengl a pharhau i gymryd rhan mewn Undeb Tollau dan unrhyw enw arall. Mae llawer o ddiffygion yn y cynigion ac mae gormod o gwestiynau o lawer yn parhau heb eu hateb. Fodd bynnag, rwy'n credu ei fod yn sail i ddechrau cynnal trafodaethau mwy difrifol.
"Rwy'n annog 27 gwlad yr UE i ddangos rhywfaint o hyblygrwydd i osgoi'r sefyllfa drychinebus o fod heb gytundeb. Mae’n amlwg bod angen cydweithio o'r fath wrth weld ymosodiadau gweinyddiaeth ddiffyndollol yr Unol Daleithiau ar ddiwydiant dur y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn dangos yn glir bod y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn rhannu'r un gwerthoedd a buddion craidd.
"Drwy gamu dros y llinellau coch a chydweithio, rwy'n credu y gallwn ddod i gytundeb sy'n sylfaen i berthynas economaidd hirdymor.“