Mai anrheg priodas Cymru i'r Tywysog Harry a Meghan Markle yw cyfraniad i'r elusen Gymreig, Life for African Mothers.
Bydd y rhodd o £1,500 ar ran pobl Cymru yn ariannu taith bydwraig o'r wlad hon i hyfforddi hyd at 30 o fydwragedd lleol yn Affrica, gan eu dysgu sut i sicrhau beichiogrwydd a genedigaeth fwy diogel.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Rydw i wedi ysgrifennu at y cwpwl brenhinol i ddymuno'n dda iddynt a'u llongyfarch ar eu priodas. Bydd ein hanrheg yn ariannu taith bydwraig o Gymru i rai o'r gwledydd Affricanaidd tlotaf, fel Sierra Leone a Liberia, i helpu bydwragedd lleol i wneud beichiogrwydd a genedigaeth yn fwy diogel.
"Bydd y cyllid hwn yn helpu i achub bywydau mamau a babanod yn Affrica Is-Sahara. Rwy'n siŵr y bydd y cwpwl brenhinol yn cytuno bod hon yn rhodd hyfryd gan bobl Cymru."
Mae Life for African Mothers wedi bod yn cefnogi ysbytai yn Affrica Is-Sahara ers 12 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, gwelwyd cwymp sylweddol yn nifer y menywod sy'n marw yn ystod beichiogrwydd neu wrth roi genedigaeth. Mae'r elusen yn darparu meddyginiaeth i drin gwaedlif ôl-enedigol ac yn cynnal hyfforddiant i fydwragedd lleol er mwyn eu helpu i wella'r gofal i'r fam a'r baban.
Bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod Angela Gorman, Prif Swyddog Gweithredol Life for African Mothers heddiw. Dywedodd:
"Dyma newyddion ardderchog. Rwy'n falch iawn bod y Prif Weinidog wedi penderfynu cefnogi 'Life for African Mothers'. Mae'r elusen yn helpu mamau yn ystod genedigaeth, a diolch i'r cyllid hwn bydd modd i ni anfon bydwraig i gynnal gweithdai yn rhai o wledydd tlotaf Affrica, fel Sierra Leone a Liberia.
"Mae'r fenter hefyd yn ffordd o rannu profiadau ar y ddwy ochr. Bydd y bydwragedd sy'n gwirfoddoli yn dychwelyd i weithio yng Nghymru â sgiliau newydd a ddysgwyd yn ystod eu cyfnod yn Affrica."