Y Prif Weinidog yn cyfarfod beicwyr i drafod £60m o fuddsoddiad mewn Teithio Llesol
Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn buddsoddi £60 miliwn dros y tair blynedd nesaf i greu llwybrau teithio llesol newydd ledled Cymru, gan gysylltu cartrefi pobl gydag ysgolion, swyddi a chymunedau lleol.
Dyma'r hwb ariannol mwyaf erioed i gynlluniau teithio llesol yng Nghymru, ac mae'n newid sylweddol yn agwedd y Llywodraeth at Deithio Llesol. Bydd y cyllid - sy'n cyfateb i £20 yn ychwanegol fesul pen y boblogaeth yng Nghymru - yn golygu bod modd adeiladu prosiectau seilwaith mawr nad yw Cymru wedi gweld eu bath mewn bron i ddegawd.
Bydd y Prif Weinidog yn trafod beth hoffai beicwyr lleol ei weld yn deillio o'r cyhoeddiad cyllid sylweddol hwn - fel mwy o lonydd beicio, cynlluniau llogi beiciau a chyfleusterau parcio neu briffyrdd beicio.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Efallai bod yr ymadrodd Teithio Llesol yn anghyfarwydd i rai, ond mae'n rhan o fywyd bob dydd nifer fawr o bobl - mae 61% o oedolion yn cerdded o leiaf unwaith yr wythnos, a 42% o blant ysgol gynradd yn cerdded i'r ysgol bob dydd.
"Ond dim ond 5% o oedolion sy'n beicio o leiaf unwaith yr wythnos, a dim ond 1% o blant sydd fel arfer yn beicio i'r ysgol gynradd. Hoffwn i weld y lefelau hynny'n codi'n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, felly mae angen y seilwaith i gefnogi hyn.
"Mae'r cyllid hwn - £60 miliwn dros y tair blynedd nesaf - yn newid sylweddol yn agwedd Llywodraeth Cymru at Deithio Llesol. Mae'r lefelau ariannu ar gyfer cerdded a beicio wedi amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond dyma ymrwymiad clir i roi blaenoriaeth i'r gwaith hwn.
"Mae cael mwy o bobl i gerdded neu feicio i'r gwaith, i'r ysgol neu i'r siop i brynu peint o laeth yn beth syml iawn sy'n arwain at fanteision gwirioneddol. Drwy gynnwys ymarfer corff yn ein bywydau bob dydd, gallwn wella ein hiechyd a lleihau'r traffig ar y ffyrdd, sy'n golygu llai o lygredd aer a thagfeydd.
"Drwy greu pontydd a llwybrau troed a llwybrau beiciau, bydd ein cymunedau yn fwy cysylltiedig, bydd gwell mynediad at addysg, swyddi a gwasanaethau, a bydd costau teithio yn gostwng.
"Rwy'n edrych ymlaen at gael cyfarfod beicwyr lleol i gael clywed dros fy hun sut yr hoffent weld y £60 miliwn hwn yn cael ei wario. Mae gwahanol heriau yn codi mewn gwahanol ardaloedd o Gymru, ac fe fydd eu profiadau o feicio o amgylch Cymru'n werthfawr tu hwnt wrth i ni gynllunio'n prosiectau Teithio Llesol."
Dywedodd Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru, Steve Brooks:
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn newyddion da i’r economi, yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd.
“Rydyn ni’n gwybod bod tagfeydd yn amharu ar fusnesau Cymru, yn llygru’r aer ac yn cyfrannu at afiechyd.
“Mae’r buddsoddiad hwn yn gam enfawr ymlaen a fydd yn helpu mwy o bobl i adael eu ceir gartref a gwneud unrhyw deithiau byr ar droed neu ar feic.”