Gyda blwyddyn i fynd tan i'r DU ymadael â'r UE, mae'r Prif Weinidog, yn rhybuddio bod pobl Cymru yn parhau i fod yn y niwl ynghylch y math o fargen Brexit mae Prif Weinidog y DU, am ei chael.
Mae Carwyn Jones yn pryderu nad yw Theresa May, dros 20 mis ers y refferendwm, wedi egluro'n ddigonol y math o berthynas newydd y byddai'n dymuno ei chael â Brwsel ar ôl y cyfnod pontio.
Mae Llywodraeth Cymru ar y llaw arall wedi cyhoeddi tystiolaeth, dadansoddiadau a chynigion manwl ar gyfer Brexit a fyddai'n diogelu swyddi ac economi Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Dim ond 12 mis sydd i fynd tan y byddwn ni'n ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol ac nid oes gan bobl Cymru unrhyw syniad am y fargen y mae Theresa May am ei chael â Brwsel ar ôl Brexit. Rydyn ni’n croesawu’r cytundeb ar drefniadau pontio, ond ni ddylem ni golli golwg o'r darlun ehangach. Y gwirionedd yw, dydyn ni dal ddim yn gwybod beth ydyn ni'n 'pontio' tuag ato. Dydy’r ansicrwydd hirdymor ddim wedi diflannu, a does dim sicrwydd ynghylch ein perthynas fasnach ac mae hyn yn wael i fusnesau a buddsoddiadau.
"Fel y dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ei hun yn ddiweddar, mae angen i bob un ohonom wynebu ffeithiau caled. Mae hyn yn gyngor da i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei hun. Mae'n ymddangos nad oes cytundeb yn Whitehall ynghylch y math o berthynas mae am ei chael â'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.
"Mae'r Deyrnas Unedig yn wynebu cyfnod hir o negodiadau lle bydd angen datrys materion anodd. Os na fydd y Llywodraeth yn symud oddi wrth ei 'llinellau coch', rydyn ni'n wynebu'r posibilrwydd o fod mewn perthynas yn y dyfodol â 27 yr UE a fydd yn gwneud difrod mawr i'n heconomi. Rydyn ni angen penderfyniadau clir, tryloywder a'r gallu i graffu'n ddilys ar ddewisiadau fydd yn cael effaith am genedlaethau.
"Mae amser yn prinhau. Mae angen i fusnesau a'r sector cyhoeddus allu cynllunio ar gyfer y newid anferth hwn ond mae'r diffyg eglurder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud hyn i gyd bron yn amhosibl. Dydw i ddim yn cwestiynu Brexit – mae'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Ond rydyn i'n haeddu gwybod beth yw'r cynllun.
"Mae ein blaenoriaethau ni, ar y llaw arall yn seiliedig ar dystiolaeth ac ar roi anghenion yr economi yn gyntaf. Byddwn ni'n parhau i ymladd dros Brexit synhwyrol sy'n diogelu economi a swyddi Cymru. Mae angen i ymarferoldeb a synnwyr cyffredin ennill y dydd i sicrhau Brexit llwyddiannus."