Heddiw, mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi pwy sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant 2018.
Gwobrau cenedlaethol Cymru yw Gwobrau Dewi Sant. Maent yn cydnabod llwyddiannau nodedig pobl sy’n byw yng Nghymru neu sy'n dod o Gymru ac yn cydnabod gorchestion a'r cyfraniadau gwych a wneir gan bobl o bob cefndir.
Wrth gyhoeddi pwy sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:
Mae'r digwyddiad hwn sydd, erbyn hyn, yn cael ei gynnal am y bumed flwyddyn, yn dathlu ac yn cydnabod lond llaw yn unig o'r bobl hynny sydd naill ai wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd rhywun arall, neu sydd wedi llwyddo yn wyneb adfyd neu wedi cyflawni rhywbeth sydd wir yn ysbrydoli eraill.
Unwaith eto, mae'r rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn grŵp eithriadol o bobl. Mae pob copa walltog ohonyn nhw'n glod i Gymru. Dw i'n edrych 'mlaen at gael dathlu'r pethau anhygoel y maen nhw wedi'u cyflawni yn y seremoni wobrwyo a fydd yn cael ei chynnal ar 22 Mawrth.
Nodir isod pwy sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn yr amryfal gategorïau: Dewrder; Dinasyddiaeth; Diwylliant; Menter; Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Rhyngwladol; Chwaraeon a Pherson Ifanc.