Mae Syr Wyn Williams wedi cael ei benodi i rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.
Cafodd y seremoni tyngu i mewn ei pherfformio gan yr Arglwydd Brif Ustus ac fe'i cynhaliwyd heddiw (dydd Gwener 15 Rhagfyr) yn Llys y Goron Caerdydd.
Bydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru'n darparu arweinyddiaeth farnwrol i gefnogi annibyniaeth ac effeithiolrwydd Tribiwnlysoedd Cymru.
Cafodd Syr Wyn Williams ei enwi a'i fagu yng Nglynrhedynog yn Rhondda. Cafodd ei alw i'r Bar ym 1974 ac fe'i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines yn 1992. Fe'i penodwyd yn farnwr yn yr Uchel Lys yn 2007.
Rhwng Ionawr 2012 a Rhagfyr 2015 ef oedd barnwr gweinyddol Cymru gan ddod yn Uwch Farnwr Gweinyddol yn 2014.
Dywedodd Syr Wyn Williams,
“Rwyf yn falch iawn o gael fy mhenodi'n Brif Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Mae gan y Tribiwnlysoedd hyn rôl bwysig iawn yn narlun cyfreithiol Cymru ac edrychaf ymlaen at chwarae rhan wrth sicrhau eu bod yn darparu mynediad i gyfiawnder mewn ffordd fodern ac effeithlon.”
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles, AC,
"Mae Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn rôl o bwys wrth ddarparu arweinyddiaeth farnwrol ar gyfer gweinyddu cyfiawnder yn ein tribiwnlysoedd ac wrth gynnal annibyniaeth a statws barnwriaeth Tribiwnlysoedd Cymru.
“Ac yntau wedi'i eni a'i fagu yma yng Nghymru, mae Syr Wyn Williams yn farnwr profiadol iawn yn yr Uchel Lys, ac mae ganddo hanes blaenorol o arweinyddiaeth farnwrol yng Nghymru ers llawer o flynyddoedd. Rwy'n croesawu ei benodiad yn fawr a hoffwn ddymuno'n dda iddo yn y rôl bwysig hon.”