Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd yn cael ei benodi'n Gadeirydd.
Heddiw cyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod Comisiwn newydd ar Gyfiawnder yn cael ei sefydlu yng Nghymru.
Bydd y Comisiwn, o dan gadeiryddiaeth Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, yn adolygu'r system gyfiawnder a phlismona yng Nghymru, gan ystyried sut y gallai'r system sicrhau canlyniadau gwell.
Bydd y Comisiwn yn ymdrin â'r busnes heb ei orffen sy'n deillio o Gomisiwn Silk, a wnaeth nifer o argymhellion, yn seiliedig ar resymeg ofalus a thystiolaeth, ar gyfer y maes cyfiawnder - gan gynnwys y llysoedd, y gwasanaeth prawf, carchardai, a chyfiawnder ieuenctid. Bydd hefyd yn rhoi sylw i faterion hanfodol sy'n ymwneud ag awdurdodaeth gyfreithiol a'r heriau sy'n wynebu'r sector gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Rydyn ni wedi cael deddfwrfa ar wahân yng Nghymru ers chwe blynedd, ond hyd yma nid oes gennym ein hawdurdodaeth ni ein hunain. Drwy sefydlu'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, rydyn ni'n cymryd y cam pwysig cyntaf tuag at ddatblygu system gyfiawnder unigryw a fydd yn adlewyrchu anghenion Cymru.
“Bydd y Comisiwn yn ystyried sut y gallwn ni wneud pethau'n wahanol yng Nghymru, gan nodi'r opsiynau ar gyfer datblygu ein system gyfiawnder ein hunain, a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl Cymru gael mynediad at gyfiawnder, yn ogystal â gostwng nifer y troseddau a hybu’r broses adsefydlu.
“Dw i'n falch o allu cyhoeddi mai'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd fydd Cadeirydd y Comisiwn pan fydd yn rhoi'r gorau i'w swydd fel Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr ym mis Hydref. Yn sgil cyrraedd uchelfannau'r farnwriaeth yng Nghymru a Lloegr, mae'r Arglwydd Thomas wedi ennill parch gan bawb, ac fe ddaw â'i gyfoeth digynsail o brofiad i'r rôl bwysig hon.”
Dywedodd yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd:
“Dw i'n hynod falch o gael y cyfle i fynd i'r afael â'r her hon pan fyddaf yn rhoi'r gorau i fod yn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr ym mis Hydref. Fel awdurdodaeth fach sy'n datblygu, mae Cymru yn cynnig cyfleoedd unigryw i gael hyd i atebion newydd i'r heriau cymhleth sy'n wynebu'r system gyfiawnder a'r proffesiwn cyfreithiol. Mae'r atebion hyn yn hanfodol i sicrhau ffyniant Cymru yn y dyfodol, a dw i'n gobeithio y bydd y Comisiwn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r gwaith sydd o’n blaenau.”