Heddiw mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi rhoi gwedd ffurfiol ar her Llywodraeth Cymru i Fil Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Cyflwynir yr her er mwyn amddiffyn pwerau sydd wedi’u datganoli.
Gan gymryd cam na welwyd mo’i debyg o’r blaen, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi cydweithio ar eu gwrthwynebiad i’r Bil, a heddiw maent wedi cyflwyno memorandwm sy’n dadansoddi’r drafft presennol o’r Bil yn fanwl.
Byddai Bil yr UE (Ymadael) yn golygu bod pob un o gyfreithiau’r UE sy’n effeithio ar y DU yn cael ei rhoi ar lyfr statud Prydain ar ddiwrnod Brexit. Byddai’n gosod cyfyngiadau newydd ar bwerau’r gwledydd datganoledig ac yn galluogi Gweinidogion y DU i ddiwygio deddfwriaeth ddatganoledig, gan anwybyddu Llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei gwrthwynebiad swyddogol i’r Bil, dywedodd y Prif Weinidog:
“Ar ei ffurf bresennol, byddai Bil yr UE (Ymadael) yn caniatáu i Lywodraeth y DU gipio pwerau a ddylai ddod i Gymru ar ôl Brexit.
“Mae ein safbwynt yn glir a diamwys: nid ydym yn derbyn y bil ar ei ffurf bresennol ac rydym yn argymell na ddylai’r Cynulliad roi cydsyniad iddo.
“Nid rhwystro Brexit yw’r bwriad, ond amddiffyn buddiannau pobl Cymru. Nid oes modd inni gefnogi unrhyw gyfraith a fyddai’n golygu bod Cymru’n colli ei dylanwad dros feysydd y mae gennym hawl i’w rheoli.
“Rydym yn fodlon ac yn barod i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddod i gytundeb ar y bil. Ond, os byddant yn mynnu bwrw ymlaen, bydd hynny’n achosi argyfwng cyfansoddiadol – rhywbeth nad oes arnynt hwy ei angen ac nad oes arnom ni ei eisiau.
“Rwy’n pwyso ar David Davis a’i gydweithwyr yn Whitehall i ystyried ein cynigion o ddifrif ac i ddiwygio’r bil. Bydd hynny’n ein galluogi i fwrw ymlaen â’r dasg bwysicaf sydd o’n blaenau, sef sicrhau’r fargen orau i’r DU gyfan yn sgil Brexit.”