Mewn ymateb i gyflwyno Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi cyhoeddi'r datganiad isod ar y cyd.
"Ddechrau'r wythnos hon roedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn galw am gydweithrediad adeiladol o'r tu hwnt i San Steffan er mwyn helpu i gael Brexit yn iawn. Cyhoeddi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) heddiw yw'r prawf cyntaf i weld a yw Llywodraeth y DU o ddifri. Mae wedi methu'r prawf yn llwyr.
"Rydyn ni wedi ceisio trafod y materion hyn gyda Llywodraeth y DU sawl gwaith, ac wedi cyflwyno cynigion adeiladol ynghylch ffyrdd o sicrhau canlyniad a fydd yn amddiffyn buddiannau pob un o wledydd y Deyrnas Unedig, diogelu'r economi a pharchu datganoli.
"Yn anffodus, nid yw'r Bil hwn yn gwneud hyn. Yn hytrach, mae'n ymgais hyf i fachu pŵer, yn ymosodiad ar egwyddorion craidd datganoli, ac yn peryglu ansefydlogi'n heconomïau.
"Mae'n dwy lywodraeth - a llywodraeth y DU - yn cytuno bod angen cyfres o gyfreithiau ymarferol ar draws y DU ar ôl ymadael â'r UE. Rydym hefyd yn cydnabod y gall fod angen fframweithiau cyffredin ar draws y DU yn lle cyfreithiau'r UE mewn rhai meysydd. Ond rhaid cyflawni hyn drwy drafodaethau a chytundeb, nid gorfodaeth. Rhaid gwneud hyn mewn ffordd sy'n parchu'r setliadau datganoli y gweithiwyd mor galed i'w sicrhau.
"Nid yw Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn dychwelyd pwerau o'r UE i'r gweinyddiaethau datganoledig, fel yr addawyd. Yn hytrach, mae'n eu dychwelyd i Lywodraeth y DU yn unig, ac yn gosod cyfyngiadau newydd ar Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
"Ar y sail honno, nid oes modd i Lywodraethau Cymru a'r Alban argymell rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil fel y mae ar hyn o bryd.
"Mae'r Bil yn rhyddhau Llywodraeth y DU a'r Senedd rhag gorfod cydymffurfio â chyfraith yr UE, ond yn gwneud y gwrthwyneb i'r deddfwrfeydd datganoledig: mae'n gosod cyfres newydd o gyfyngiadau caeth. Nid yw'r cyfyngiadau hynny'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl yng nghyd-destun ymadawiad y DU â'r UE.
"Rydym wedi egluro'r pwyntiau hynny i Lywodraeth y DU ac wedi gosod yr hyn sydd yn ein barn ni yn ffordd adeiladol ymlaen mewn ysbryd o gydweithrediad, yn seiliedig ar gynnwys a pharchu'r sefydliadau datganoledig.
"Yn anffodus, mae'r sgwrs wedi bod yn un cwbl unochrog. Rydym yn parhau i fod yn agored i'r trafodaethau, ac yn edrych ymlaen at ddod i gytundeb rhwng llywodraethau'r ynysoedd hyn."