Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn Gibraltar i gyfarfod â'r Prif Weinidog, Fabian Picardo, i drafod materion allweddol ar gyfer trafodaethau Brexit.
Yn ystod ei gyfnod yn Gibraltar, bydd y Prif Weinidog hefyd yn cyfarfod â'r Llywodraethwr, yr Is-gadfridog, Edward Grant Martin Davis; y Dirprwy Brif Weinidog, Dr Joseph Garcia; y Siambr Fasnach a'r Ffederasiwn Busnesau Bach.
Mae economi Gibraltar yn ffynnu, a’r wlad hon yw’r pedwerydd uchaf yn y byd o ran cynnyrch domestig gros (GDP) y pen, sy’n £54,979. Er hyn, mae'r wlad yn dibynnu'n fawr ar ei pherthynas unigryw â'r UE a'r DU gan fod 40% o weithlu Gibraltar yn croesi’r ffin o Sbaen bob diwrnod.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Er bod Gibraltar mewn sefyllfa unigryw, yr un pryderon sydd gennym ni yma yng Nghymru am ddyfodol perthynas y Deyrnas Unedig ag Ewrop a'r ffordd y byddwn yn mynd ati i ymadael â’r UE.
"Rydyn ni'n rhannu agwedd benderfynol Gibraltar i sicrhau llwybr yn nhrafodaethau Brexit a fydd yn diogelu ein gallu i fasnachu. Rydyn ni hefyd yn cydnabod y cyfraniad cadarnhaol sy'n cael ei wneud gan ddinasyddion yr UE i fywyd yng Nghymru, a byddwn yn parhau i fod angen gweithwyr o wledydd yr UE i helpu i gynnal ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus, yn yr un modd â Gibraltar.
"Mae'r ymweliad hwn hefyd yn gyfle i ddysgu o brofiad Gibraltar o weithredu y tu allan i'r Undeb Tollau a deall y risgiau posibl a'r materion y byddem ni yn eu hwynebu pe byddai'r Deyrnas Unedig yn dilyn yr un llwybr ar ôl Brexit.
"Wrth inni baratoi i ymadael â’r UE, mae'n hanfodol bod pob rhan o'r DU a Gibraltar yn cydweithio i fapio ffordd ymlaen sy'n diwallu ein holl anghenion."