Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones heddiw wedi cyhoeddi blaenoriaethau deddfwriaethol ei Lywodraeth ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones heddiw wedi cyhoeddi blaenoriaethau deddfwriaethol ei Lywodraeth ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Yn y cyntaf o bum Bil, bydd Llywodraeth Cymru'n cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn ei gwneud yn anghyfreithlon gwerthu alcohol am lai na phris penodol.
Ceir tystiolaeth fod cysylltiad uniongyrchol rhwng yfed lefelau niweidiol o alcohol ac phris alcohol rhad. Bydd y Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) yn cynnig fformiwla ar gyfer cyfrifo isafbris alcohol, ar sail cryfder a chyfaint, ac yn galluogi awdurdodau lleol i orfodi'r pwerau ac erlyn.
Mae'r Llywodraeth hefyd yn cyflwyno Bil i atal landlordiaid ac asiantau tai rhag codi ffioedd annheg rhag blaen ar denantiaid a darpar denantiaid yn y sector rhentu preifat.
Ceir tystiolaeth gynyddol fod ffioedd presennol - a all fod mor uchel â £700 - yn rhwystr i bobl sydd am rentu cartref ac yn atal pobl rhag ystyried symud tŷ. Bydd y Bil yn darparu eglurder i'r rhai sy'n rhentu'n breifat ynghylch y costau sydd ynghlwm, gan sicrhau bod y system yn deg ac yn gynaliadwy.
Dros y 12 mis nesaf, bydd y Llywodraeth hefyd yn cyflwyno Bil a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer un o'i phrif addewidion; 30 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio.
Rydym wedi symud ymlaen cryn dipyn gyda'r cynnig gofal plant, gyda'r cynllun peilot cyntaf i ddechrau ym mis Medi. Bydd y Bil yn cefnogi hyn ac yn golygu y bydd modd cyflwyno'r cynnig gofal plant yn llawn erbyn 2020, drwy greu system genedlaethol ar gyfer ceisiadau a gwiriadau i weld pwy sy'n gymwys.
Bydd Llywodraeth Cymru’n cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru. Bydd y Bil yn sefydlu perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, creu mwy o dryloywder yn y broses o wneud penderfyniadau a sicrhau mwy o gydweithio drwy drefniadau gweithio rhanbarthol gorfodol.
Bydd y Llywodraeth hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth yn y 12 mis nesaf i ddiwygio rheolaethau rheoliadol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig Cymru. Ym mis Medi 2016, penderfynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i'r sector cyhoeddus. O ganlyniad, bydd unrhyw fenthyca sector preifat gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn dod yn daliad yn erbyn cyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru.
Os na fydd hyn yn cael sylw, gallai'r newid gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol gyfyngu ar ddatblygiad tai cymdeithasol fforddiadwy newydd a chyfyngu ar ein gallu ni i ariannu prosiectau seilwaith cyfalaf eraill. Mae Bil Llywodraeth Cymru'n cynnig diwygio rheolaethau llywodraeth leol a’r llywodraeth ganolog dros landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gan alluogi’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailystyried yr ailddosbarthiad, a'u dychwelyd i'r sector preifat.
Mae'r Llywodraeth hefyd yn ceisio cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer deddfwriaeth i gael gwared ar 'gosb resymol' fel amddiffyniad, ac fe fydd yn ymgynghori ynghylch y cynigion gyda'r bwriad o gyflwyno Bil yn nhrydedd flwyddyn tymor y Cynulliad hwn.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Bydd y Biliau rydyn ni’n bwriadu eu cyflwyno yn ystod ail flwyddyn y Cynulliad hwn yn helpu'n hymdrechion i adeiladu Cymru iach ac egnïol, ffyniannus a diogel, uchelgeisiol ac sy'n dysgu, unedig a chysylltiedig.
"Bydd y pum Bil yn mynd i'r afael â defnydd niweidiol o alcohol, helpu rhieni sy'n gweithio, amddiffyn tenantiaid rhag ffioedd annheg a diwygio a gwella llywodraeth leol.
"Yr wythnos ddiwethaf gosododd Llywodraeth y DU ei hamcanion deddfwriaethol yn Araith y Frenhines. Ynghanol datganiad heb unrhyw uchelgais, roedd y Bil Diddymu a Biliau eraill yn ymwneud â Brexit.
"Fel y dywedais i dro ar ôl tro, rhaid i Lywodraeth y DU barchu'r setliad datganoli. Os na fydd hyn yn digwydd byddwn yn ystyried opsiynau eraill, megis Bil Parhad, i ddiogelu buddiannau Cymru.
"Bydd ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn cael effaith sylweddol ar waith Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol. Byddai'n hynod naïf meddwl na fydd hefyd yn effeithio ar ein rhaglen ddeddfwriaethol ni ein hunain - ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i barhau i symud ymlaen a chyflawni ar ran pobl Cymru."