Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones heddiw yn lansio papur polisi Llywodraeth Cymru ynghylch Brexit a datganoli.
Wrth siarad mewn digwyddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yng Nghaerdydd, bydd y Prif Weinidog yn dweud y gallai ymadael â'r UE arwain at ansefydlogi'r Deyrnas Unedig, ond ar y llaw arall bod cyfle nawr i ail-lunio'r wlad.
Mae'r papur yn cynnig cynllun ar gyfer diwygiad cyfansoddiadol sylweddol yn y DU, er mwyn wynebu'r heriau a fydd yn codi yn sgil Brexit i'r gwledydd datganoledig a dyfodol llywodraethiant y deyrnas yn gyfan.
Disgwylir i'r Prif Weinidog ddweud:
"Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yw’r her fwyaf sylweddol sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig, ac mae’n her a ddaeth yn amlycach fyth yn sgil canlyniad yr Etholiad Cyffredinol.
"Bydd y penderfyniadau a wneir yn awr yn effeithio ar Gymru am ddegawdau i ddod. Ein gallu i fasnachu, teithio, denu buddsoddiadau, penderfynu ar bolisïau, deddfu, cefnogi ein cefn gwlad, buddsoddi yn ein rhanbarthau – bydd y ffordd y byddwn yn ymadael â'r UE yn dylanwadu ar y rhain i gyd.
"Rwy' wedi dadlau'n gwbl gyson mai'r flaenoriaeth bennaf ddylai fod sicrhau mynediad llawn a dirwystr i'r Farchnad Sengl. Ond mae perygl i ganlyniadau Brexit arwain at ansefydlogi'r Deyrnas Unedig fel y gwyddom amdani - ar y llaw arall, os byddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd, gallwn ni ddefnyddio hyn fel cyfle i ail-lunio a chryfhau'r Undeb."
Mae'r papur yn cynnig creu Cyngor Gweinidogion y DU yn lle'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion presennol, er mwyn trafod, cytuno ar benderfyniadau a helpu i ddatrys anghydfodau.
Byddai'r cyngor newydd hwn yn cael ei wasanaethu gan ysgrifenyddiaeth annibynnol a rhaglen waith strwythuredig. Byddai'n dod â'r pedair llywodraeth ynghyd i drafod a chytuno ar fframweithiau y byddai'n rhaid cadw atynt ar draws y DU mewn meysydd datganoledig lle bo angen, yn ogystal ag ystyried polisïau heb eu datganoli, megis cymorth gwladwriaethol.
Mae'r papur hefyd yn cynnig cynnal Confensiwn ar Ddyfodol y Deyrnas Unedig. Byddai'r Confensiwn, dan gadeiryddiaeth ffigur annibynnol, uchel ei barch, yn ystyried cwestiynau sylweddol a fydd yn wynebu'r DU pan fydd wedi ymadael â'r UE. Byddai'n casglu tystiolaeth gan bob plaid wleidyddol, cymdeithas sifil a phob rhan o'r DU.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
“Rhaid i'r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth ymadael â’r UE ganolbwyntio ar y dyfodol, nid y gorffennol - dyna fwriad ein papur. Mae'n cynrychioli cam pwysig ymlaen yn y gwaith y mae'n rhaid i ni ei wneud gyda Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon – drwy drafod, nid dictad - i fapio ein dyfodol ar y cyd."