Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi mynd i Doha er mwyn datblygu'r berthynas economaidd rhwng Cymru a Qatar.
Yn dilyn penderfyniad Qatar Airways i fuddsoddi mewn gwasanaeth uniongyrchol newydd o Gaerdydd i Doha, bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod Prif Swyddog Gweithredol y cwmni awyrennau, HE Akbar Al Baker, yn ogystal ag uwch swyddogion Banc Islamaidd Rhyngwladol Qatar, Awdurdod Buddsoddi Qatar a Banc Cenedlaethol Qatar.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Mae'r gwasanaeth uniongyrchol rhwng Caerdydd a Doha yn hwb enfawr i Gymru. Bydd yn agor cysylltiadau rhwng Cymru a gweddill y byd, ac yn cynnig cyfleoedd economaidd, hamdden a theithio newydd i fusnesau a phobl Cymru.
"Wrth i Gymru gael llwybr uniongyrchol i'r maes awyr canolog sy'n tyfu gyflymaf yn y byd, Hamad International, bydd hefyd yn dod yn agosach at rai o'r prif farchnadoedd byd-eang, fel India, Tsieina, Singapôr ac Awstralasia.
"Mae fy ymweliad â Doha y penwythnos hwn, ynghyd â'r gwasanaeth newydd, yn ddechrau ar berthynas arbennig newydd gyda Qatar a'r Dwyrain Canol.
"Byddwn yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n cael eu creu gan y llwybr newydd hwn. Byddwn yn ei ddefnyddio i ysgogi mwy o fuddsoddiad gan y Dwyrain Canol, gan gynnwys o gronfeydd arian sofran, mewn prosiectau seilwaith yng Nghymru.
"Wrth i ni baratoi ar gyfer dyfodol y tu allan i'r UE, mae'n bwysicach nag erioed i werthu Cymru i'r byd a chyfarfod buddsoddwyr posib o bedwar ban i ddangos iddyn nhw yn union beth sydd gan Gymru i'w gynnig."