Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones yn galw ar Lywodraeth y DU i roi’r eglurder a’r sicrwydd sydd ei angen i fusnesau Cymru.
Bydd y bil terfynol yn gosod un o’r prosiectau deddfwriaethol mwyaf o ran maint a chymhlethdod yn hanes Prydain. Er hynny, mae’r Prif Weinidog yn mynnu na ddylai Llywodraeth y DU golli golwg ar anghenion busnesau, gweithwyr a buddsoddwyr posibl er mwyn amddiffyn economi Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Rydyn ni’n barod i gydweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau llwyddiant y Bil Diddymu Mawr ac i wneud yn siŵr ei fod yn rhoi’r eglurder a’r sicrwydd sydd ei angen ar frys ar economi Cymru.
“Efallai bod ymgorffori miloedd o reolau’r Undeb Ewropeaidd i ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig yn ymddangos fel dim byd mwy na phroses fiwrocrataidd, ond mewn gwirionedd, bydd pob deddf yn effeithio’n uniongyrchol ar bobl Cymru, ein cyflogwyr a buddsoddwyr posib. Mae’n hanfodol gwneud hyn yn iawn.
“Mae ansicrwydd yn cyfyngu ar dwf economaidd, felly mae’n hanfodol amharu cyn lleied â phosib er mwyn helpu i gadw hyder yn yr economi a diogelu swyddi Cymru."
Hefyd mynegodd y Prif Weinidog ei siom nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael cyfrannu’n uniongyrchol at y Papur Gwyn, gan ychwanegu:
“Er bod y Papur Gwyn yn sôn am gynyddu pwerau’r gweinyddiaethau datganoledig i wneud penderfyniadau, dyw hi ddim yn glir ein bod ni o’r un farn ynghylch lle mae’r pwerau ar hyn o bryd a sut y dylid symud ymlaen yn y dyfodol.
“Rydyn ni wedi dweud yn glir ein bod ni’n gweld manteision cytuno ar ddulliau gweithredu cyffredin ar draws y Deyrnas Unedig mewn rhai meysydd polisi datganoledig, lle bo hynny’n bwysig ar gyfer gweithrediad marchnad y Deyrnas Unedig. Ond mae hynny ar yr amod eu bod nhw wedi’u cytuno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r tair Gweinyddiaeth Ddatganoledig, a bod systemau annibynnol ar gyfer datrys anghydfodau. Rhaid cychwyn ar ddulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o’r fath drwy gytundeb a chonsensws.
“Yn y trafodaethau sydd wedi cael eu cynnal hyd yma, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ein sicrhau ni eu bod yn rhannu’r farn hon – wrth i’r Papur Gwyn symud ymlaen bydd cyfle nawr i ddangos ymrwymiad cadarn i’r geiriau cynnes hyn.
“Rhaid i’r bil terfynol, pan ddaw, barchu a diogelu datganoli. Fe bleidleisiodd pobl Cymru dros hyn yn 1997 ac eto yn 2011. Byddwn yn parhau i drafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau nad yw’r bil yn sathru ar y setliad datganoli, ac i wneud yn siŵr y bydd yn rhoi eglurder ar gyfer ein dyfodol.”