Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn teithio i'r Unol Daleithiau heddiw i gwrdd â chynrychiolwyr gwleidyddol ac arweinwyr busnes yn Washington ac Efrog Newydd.
Cyn ei ymweliad, mynegodd y Prif Weinidog y dylai'r berthynas arbennig fod yn sail i gael gwared â rhwystrau ac i roi hwb i fasnach rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau.
Gyda thros 250 o gwmnïau dan berchnogaeth Americanaidd yng Nghymru, yr Unol Daleithiau yw un o bartneriaid masnach pwysicaf Cymru ac roedd yn gyfrifol am bron i 40% o'r holl brosiectau mewnfuddsoddi y llynedd.
Dros y pedwar diwrnod nesaf, bydd y Prif Weinidog yn cwrdd â chwmnïau sy'n awyddus i fuddsoddi ac ehangu yng Nghymru. Bydd hefyd yn trafod cysylltiadau masnachu a busnes gyda chynrychiolwyr gwleidyddol.
Fel rhan o'i hymateb i Brexit, bydd Llywodraeth Cymru'n ehangu ei chasgliad o swyddfeydd masnachu a buddsoddi ledled yr Unol Daleithiau. Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru swyddfeydd yn Washington, Efrog Newydd, San Francisco, Atlanta a Chicago.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cynnal derbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn Capitol Hill ar gyfer y prif fuddsoddwyr ac unigolion blaenllaw ym myd gwleidyddiaeth, ynghyd â derbyniad yn Efrog Newydd i hyrwyddo diwydiant twristiaeth Cymru.
Cyn yr ymweliad, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"I Gymru, prif bwrpas y berthynas arbennig yw datblygu'r cysylltiadau diwylliannol a masnachol cryf sydd eisoes yn bodoli rhwng ein dwy gwlad.
"Mae Cymru wedi bod yn lleoliad deniadol i sawl busnes o America dros y blynyddoedd ac rydym yn awyddus i groesawu mwy yn y dyfodol. Yn yr un modd, mae busnesau Cymru wedi bod yn llwyddiannus wrth werthu i'r Unol Daleithiau mewn amrywiaeth o sectorau ac rwy'n credu y gallwn wella hyn hefyd yn y dyfodol.
“Yn fy nhrafodaethau gyda busnesau, gwleidyddion a llysgenhadon America, byddaf yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu masnachu rhydd rhwng ein gwledydd a chael gwared â rhwystrau er mwyn hwyluso a chyflymu'r broses fasnachu.
"Byddwn ni hefyd yn ychwanegu at ein hadnodd yng Ngogledd America. Ry'n ni angen presenoldeb parhaol yng Nghanada a rhwydwaith gryfach yma yn yr Unol Daleithiau. Dyna fydd fy mlaenoriaeth dros y deuddeg mis nesaf wrth inni ailstrwythuro ein gweithgareddau tramor er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd economaidd newydd."