Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn croesawu arweinwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i Gaerdydd heddiw i drafod ymadawiad Prydain â’r UE.
Yn ystod y cyfarfod, bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn annog Prif Weinidog y DU, Theresa May, i ddefnyddio Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar yr UE fel man cychwyn ar gyfer proses negodi Brexit.
Mae’r Papur Gwyn hwn, a gafodd ei gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn gynllun cynhwysfawr ac ymarferol ar gyfer ymadawiad y DU â’r UE.
Mae’r Papur Gwyn yn llawer mwy na rhestr siopa o’r gofynion sydd gan Gymru. Mae’n fan cychwyn ymarferol ar gyfer proses negodi a fyddai’n gallu bodloni gofynion pob rhan o’r DU.
Mae’r papur yn cydbwyso pryderon ynghylch mewnfudo â’r realiti economaidd sy’n gwneud y farchnad sengl yn ganolog i ffyniant Cymru yn y dyfodol.
Yn y cyfarfod heddiw, bydd Prif Weinidog Cymru hefyd yn galw ar Brif Weinidog y DU i gadw at yr addewidion a wnaed yn ystod ymgyrch y refferendwm na fyddai Cymru yn colli cyllid pe byddai’r DU yn ymadael â’r UE.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
“Rwy’n edrych ymlaen at groesawu cynrychiolwyr o lywodraethau gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig i Gaerdydd heddiw. Mae’r cyfarfod yn gyfle pwysig i gael trafodaeth agored a gonest am ddyfodol y DU ar ôl Brexit.
“Er ein bod yn gwybod y bydd y DU yn gadael yr UE, dydyn ni dim yn gwybod eto pryd y bydd hynny’n digwydd na sut fath o berthynas fydd gennym gyda’r UE wedi hynny. Er mwyn cyfrannu at y drafodaeth honno, fe wnes i lansio ein Papur Gwyn ar Brexit yr wythnos diwethaf. Mae bron tri chwarter Aelodau’r Cynulliad yn cefnogi’r papur, sy’n amlinellu cynllun cynhwysfawr ac ymarferol, yn seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer negodiadau Brexit; gyda’r nod o sicrhau mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl a fwy o rheolaeth ddomestig dros fewnfudo.
“Mae’n fwy na rhestr o ofynion. Er ei fod yn diogelu buddiannau Cymru, mae wedi’i lunio i fod yn fan cychwyn i’r negodiadau ar gyfer y DU i gyd.”