Travis Carter, naw oed, o Ysgol Gymraeg Cwmbrân yw enillydd y gystadleuaeth i lunio cerdyn Nadolig Prif Weinidog Cymru.
Heddiw, bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cyflwyno copi o’r llun buddugol, wedi ei lofnodi a’i fframio, i Travis. Mae’r llun yn dangos Siôn Corn yn dosbarthu anrhegion o sled sy’n cael ei dynnu gan ddraig.
Daeth dros 700 o geisiadau i law ar gyfer y gystadleuaeth eleni oddi wrth ddisgyblion Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4 ledled Cymru.
Y Prif Weinidog ddewisodd y cerdyn buddugol i’w ddefnyddio fel ei gerdyn Nadolig swyddogol a fydd yn cael ei anfon i bob rhan o Gymru a’r byd.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cael cyfle i fwynhau perfformiad arbennig o ganeuon cyngherddau Nadolig y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2, pan fydd yn ymweld â’r ysgol.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Roeddwn wrth fy modd o weld yr holl gardiau gwych a ddaeth i law ar gyfer y gystadleuaeth eleni, ond o’r holl luniau rhagorol a gafwyd, roedd delwedd drawiadol a chlyfar Travis wedi dal fy sylw. Rwy’n siŵr y bydd yn dod â gwên i wyneb pawb sy’n ei weld y Nadolig hwn. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth eleni, gan ddymuno Nadolig Llawen iawn iddyn nhw.”
Dywedodd Travis:
“Roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr bod y cerdyn Nadolig mor Gymreig â phosibl, ac felly fe wnes benderfynu defnyddio draig yn lle ceirw.”
Dywedodd Catrin Evans, pennaeth Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
“Cafodd pawb lawer o hwyl wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth cerdyn Nadolig. Roedden ni wrth ein bodd o glywed bod Travis wedi ennill, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r Prif Weinidog i’r ysgol.”
<!--comment-->