Y Prif Weinidog, Carwyn Jones yn pwysleisio pwysigrwydd Marchnad Sengl Ewrop a masnach rydd cyn Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.
Wrth iddo gynnal cyfarfod o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig heddiw, bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl ac i warchod rhag rhwystrau yn erbyn masnachu.
Mae uwchgynhadledd heddiw’n gyfle i arweinwyr a gweinidogion wyth aelod-weinyddiaeth y Cyngor ddod ynghyd i ystyried goblygiadau Brexit a'r newid sylfaenol ddaw wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ystod y cyfarfod, bydd y Prif Weinidog yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl yn enwedig o ystyried yr ansicrwydd ynghylch masnachu gyda’r UDA yn y dyfodol o dan yr arweinyddiaeth newydd.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Mae newid ar droed ac mae cyfnod cythryblus o’n blaenau. Serch hyn, mae ein ffocws ar gadw mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl yn glir. Heddiw unwaith eto, byddaf yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi blaenoriaeth i’r mater hwn yn y trafodaethau sydd ar y gorwel i adael yr Undeb Ewropeaidd.
"I siarad yn blaen, byddai sefyllfa ble byddai'r Deyrnas Unedig yn wynebu rhwystrau a thariffau er mwyn masnachu yn Ewrop yn drychinebus i'n economi ac ni fyddaf yn cefnogi unrhyw setliad fydd yn tanseilio gwerth ein allforion.
"Etholwyd y darpar Arlywydd Trump yn sgil ei addewid i wneud America’n wych unwaith eto. Nid yw'n gyfrinach ganddo mai ei flaenoriaeth fydd cael y cytundeb gorau i America, a dydw i ddim wedi fy argyhoeddi y byddwn yn gweld cytundeb fasnach rydd fydd o fudd i neb fwy na’r Unol Daleithiau. Yn wir, efallai mai anos yn hytrach na haws y bydd mynediad i farchnad yr UDA. Mae hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd diogelu ein mynediad at farchnad Ewrop sy’n cynnwys 500 miliwn o bobl.
"Mae sawl dewis yn wynebu Cymru a'r Deyrnas Unedig, a bydd y penderfyniadau gaiff eu gwneud yn awr yn llywio'r ffordd ar gyfer ein dyfodol. Mae fy Llywodraeth yn derbyn ac yn croesawu'r gyfrifoldeb ond fedrwn ni ddim gweithio ar ein pennau’n hunain. Mae'n bwysicach nag erioed sicrhau ein bod yn meithrin y berthynas gref sy’n bodoli rhwng aelodau'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a chydweithio er mwyn adeiladau sylfaen gadarn ar gyfer y ffordd ymlaen."