Bydd Bae Colwyn yn cael ei drawsnewid i gyrchfan wyliau sydd yn rhaid ymweld â hi - diolch i fuddsoddiad newydd
Bydd y datblygiad yn golygu bod Bae Colwyn yn gyrchfan twristiaeth a chwaraeon dŵr blaengar unwaith yn rhagor ar gyfer arfordir Gogledd Cymru, gan gryfhau enw da Gogledd Cymru fel cyrchfan twristiaeth antur
Mae Gogledd Cymru hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth wych fel ardal a enwir gan y Lonely Planet fel un o’r lleoedd gorau i ymweld â hi yn 2017 gyda son yn arbennig am y modd y mae’r ardal wedi arallgyfeirio i greu cyfres o atyniadau sydd wirioneddol o safon fyd-eang.
Mae’r datblygiad diweddaraf hwn yn fuddsoddiad o bron i £4 miliwn gan gynnwys cyfraniad o bron i £2 filiwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop fel rhan o raglen ehangach Cyrchfannau i Ddenu Twristiaeth .
Cafodd y Prif Weinidog y cyfle i weld y cynlluniau ar gyfer y datblygiadau a’r hyn sydd wedi ei wneud hyd yma, a’r nod yw i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn yr Haf 2017.
Roedd cam cyntaf y datblygiad a gwblhawyd yn 2014 yn cynnwys Canolfan Chwaraeon Dŵr Porth Eirias, a Bistro Bryn Williams@ Porth Eirias yn ogystal â’r traeth newydd i deuluoedd, sydd wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr dros y ddau haf diwethaf
Bydd cam nesaf y Prosiect yn creu mynediad gwell i’r traeth, gwella’r lle parcio, a chynnwys elfennau tirlunio newydd a llwybr ymarfer corff. Bydd ardaloedd ar gyfer stondinau dros dro hefyd yn cael eu creu, gydag adeilad parhaol ar gyfer stondinau maes o law.
Meddai’r Prif Weinidog:
“Mae Bae Colwyn a’r ardal yn le poblogaidd iawn gan ymwelwyr a phobl leol, ond gall y prosiect yma rhoi hwb enfawr i’r diwydiant twristiaeth lleol. Trwy ganolbwyntio ar fuddsoddi mewn prosiectau allweddol ym mhob rhanbarth, gallwn ddylanwadu’n fawr ar broffil Cymru yn y farchnad hon, sy’n gystadleuol iawn yn fyd-eang. Gyda thwf enw da Gogledd Cymru am dwristiaeth - a hynny yn rhyngwladol - dyma’r amser gorau i ni fuddsoddi mwy yn yr ardal.
“Mae’r diwydiant twristiaeth mewn cyflwr da ac mae wedi mwynhau dwy flynedd gwell nag erioed gyda nifer yr ymwelwyr yn codi’n uwch na 10 miliwn am y tro cyntaf yn 2014, gyda gwariant mwy nag erioed gan ymwelwyr domestig a thramor yn 2015. Yn 2016 rydym wedi gweld cynnydd o 15% yn nifer yr ymwelwyr tramor yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn.
“Mae cydnabyddiaeth wych y Lonely Planet yn brawf o ymrwymiad y sector cyhoeddus a phreifat a’r gweithio mewn partneriaeth i ddarparu profiad i ymwelwyr sydd o safon fyd-eang.”
Meddai’r Cynghorydd Dave Cowans, Aelod Cabinet Conwy dros Briffyrdd, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd:
“Mae’r Prosiect Glan y Môr yn rhan allweddol o raglen Adfywio Baylife ac mae’r dref eisoes yn gweld manteision y gwaith a ddigwyddodd yn 2014. Mae’n bleser croesawu'r Prif Weinidog yn ôl i Fae Colwyn a gallu dangos iddo bod y gwaith eisoes wedi dechrau ar gam nesaf trawsnewid Glan y Môr Bae Colwyn.”