Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn mynegi barn y dylai Llywodraeth y DU gymryd camau brys i ailsefydlu mwy o blant ar eu pen eu hunain sy’n ffoaduriaid.
Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn mynegi ein barn y dylai Llywodraeth y DU gymryd camau brys i ailsefydlu mwy o blant ar eu pen eu hunain sy’n ffoaduriaid yn y DU ac yn cynnig cefnogaeth Cymru i’w croesawu.
Rydym yn nodi bod Llywodraeth Ffrainc yn bwriadu cael gwared â gwersyll y ‘jyngl’ yn Calais. Rydym yn gofyn i Theresa May, Prif Weinidog y DU, fel mater brys, i ganiatáu i’r holl blant hynny sy’n ffoaduriaid ac sydd â hawl gyfreithiol i fod yn y DU ddod yma cyn gynted ag y bo modd.
Mae plant y gwersyll, rhai ohonynt mor ifanc ag wyth oed, wedi dianc rhag gwrthdaro ac erledigaeth ac maent, bellach, wedi’u dal yng ngogledd Ffrainc. Maent wedi dioddef trawma aruthrol ac mewn cryn berygl. Pan gafwyd gwared ar y gwersylloedd ffoaduriaid yn Calais y tro diwethaf, nododd yr elusen Help Refugees fod 129 o blant wedi mynd ar goll.
Mae adroddiadau eraill yn awgrymu bod tri phlentyn wedi marw yn ceisio gwneud eu ffordd eu hunain i’r DU er mwyn cyrraedd eu perthnasau yma. Mae’r sefyllfa yn galw am weithredu ar unwaith gan Lywodraeth y DU. Allwn ni ddim â throi ein cefnau ar y plant hyn. Mae pob diwrnod ychwanegol yn rhoi’r plant hyn mewn perygl mwy.
Ddydd Llun, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref ei bod yn gweithio gyda Llywodraeth Ffrainc i fynd ati’n ddi-oed i ailsefydlu’r plant hynny sydd â hawl gyfreithiol i fod yn y DU o dan Reoliadau Dulyn. Mae hyn yn newyddion i’w groesawu. Fodd bynnag, mae’r DU wedi addo cymryd mwy o blant sy’n ffoaduriaid, fel rhan o’r broses a osodwyd yn Niwygiad Dubs i’r Ddeddf Mewnfudo (2016), ac mae’n hollbwysig ein bod yn croesawu cymaint o’r plant hyn â phosibl.
Fis diwethaf, cadarnhaodd y Comisiynydd Atal Caethwasiaeth fod diffyg ffydd mewn prosesau ailsefydlu yn ffactor sy’n cyfrannu at wthio plant ar eu pen eu hunain sy’n ffoaduriaid yn Calais i beryglu eu bywydau i gyrraedd y DU, gan eu gwneud eu hunain yn agored i gaethwasiaeth fodern a chael eu hecsbloetio.
Rydym yn croesawu’r ymrwymiad a wnaed yn unol â Rheoliadau Dulyn, ond yn galw ar Brif Weinidog y DU i wneud mwy dros y plant hyn. Mae Cymru yn barod i gefnogi Llywodraeth y DU i groesawu mwy o blant diamddiffyn fel ffoaduriaid yn unol â Diwygiad Dubs.