Gyda llai na phythefnos nes bod y cyfnod enwebu’n cau ar gyfer Gwobrau Dewi Sant, mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn annog pobl i enwebu arwyr lleol.
Bellach yn eu pedwaredd flwyddyn, mae Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod llwyddiannau pobl ar hyd a lled Cymru. Cawsant eu creu i gydnabod gweithredoedd a chyfraniadau mawr pobl o bob cefndir.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebu ar gyfer gwobrau eleni yw canol nos ar 21 Hydref 2016.
Categorïau Gwobrau Cymru yw Dewrder; Diwylliant; Menter; Dinasyddiaeth; Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Rhyngwladol; Chwaraeon; Person Ifanc a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.
Dywedodd Carwyn Jones:
"Fel Prif Weinidog, mae'r gen i'r fraint o deithio ar hyd a lled Cymru yn cwrdd â phobl eithriadol sy'n mynd yr ail filltir i wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun arall, i oresgyn anawsterau a chyflawni pethau sy'n ysbrydoli eraill.
"Maen nhw'n gaffaeliad i'n cenedl. Dyna pam rwy'n galw ar bobl ledled Cymru i enwebu unigolyn neu grŵp ar gyfer Gwobr Dewi Sant.
"Cefnogaeth pobl a chymunedau ar draws Cymru sydd wedi sicrhau llwyddiant mawr y Gwobrau yn y gorffennol. Felly, gyda llai na phythefnos i fynd cyn bod y cyfnod enwebu yn dod i ben, sicrhewch nad ydych yn colli'r cyfle hwn i ddathlu'ch arwyr lleol. Mae'n hawdd - ewch ar-lein ac enwebwch rywun!"
Bydd yr enillwyr yn derbyn eu gwobrau gan y dyfarnwr rygbi byd-enwog a chyn enillydd Gwobr Dewi Sant, Nigel Owens, mewn seremoni fawreddog yn y Senedd ar 23 Mawrth 2017.
Dywedodd Nigel Owens:
"Mae'n wych bod nosweithiau fel hyn yn cael eu cynnal er mwyn dangos ein gwerthfawrogiad i bawb ar bob lefel o'r gymuned. Rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o'r seremoni ac i gwrdd â'r bobl wych o bob cefndir, sy'n hoelion wyth yn ein cymunedau. Dyma'r bobl sy'n gwneud pobl Cymru'n arbennig."