“Er bod y cyhoeddiad heddiw'n gam i'r cyfeiriad iawn ac yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i fusnesau, sefydliadau a chymunedau sy'n derbyn cyllid yr UE, nid yw'n ddigon."
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:
“Er bod y cyhoeddiad heddiw'n gam i'r cyfeiriad iawn ac yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i fusnesau, sefydliadau a chymunedau sy'n derbyn cyllid yr UE, nid yw'n ddigon. Dim ond tua hanner y cyllid rhanbarthol i ddod i Gymru mae'r gwarant hwn yn rhoi sylw iddo ac nid yw'n darparu'r sicrwydd tymor hir sydd ei angen ac a addawyd cyn y refferendwm.
“Nawr mae'n rhaid i ni glywed yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU am fanylion y cyhoeddiad. Mae'n rhaid i ni gael 'gwarant llawn' y bydd cyllid yn parhau ar gyfer ein rhaglenni UE presennol hyd at 2023. Hefyd nid yw'n afresymol disgwyl cyllid pellach i roi sylw i anghenion economaidd a chymdeithasol Cymru, yn enwedig cefnogaeth i'n hardaloedd mwyaf difreintiedig, ar ôl y dyddiad hwn. Rydyn ni wedi dweud yn glir wrth Lywodraeth y DU bod achos eithriadol gryf nawr dros adolygiad mawr, ar fyrder, o Fformiwla Barnett, i ystyried anghenion Cymru yn sgil tynnu allan o'r UE.
“Ein blaenoriaeth ni yw parhau i frwydro'n frwd dros fuddiannau Cymru yn y trafodaethau ar y DU yn gadael yr UE, er mwyn cael y fargen orau i Gymru - nid dim ond am y ddwy flynedd nesaf neu tra byddwn yn parhau yn yr UE, ond hyd at 2023 a thu hwnt.”