Mae’r Prif Weinidog wedi ymateb i’r ystadegau diweddaraf am y farchnad lafur sy'n dangos fod cyfradd cyflogaeth Cymru heddiw yn uwch nag erioed.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
“Mae cyfradd cyflogaeth Cymru heddiw yn uwch nag erioed, a dros y flwyddyn ddiwethaf mae nifer pobl ddi-waith Cymru wedi syrthio 30,000 i’w lefel isaf ers 2006.
“Mae Cymru’n perfformio’n well na phob rhan arall o’r Deyrnas Unedig wrth i ddiweithdra syrthio’n gynt yma nag unman dros y 12 mis diwethaf. Ar 4.6%, mae cyfradd diweithdra Cymru’n is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig am y pedwerydd mis yn olynol, ac yn ôl y cofnodion mae’r gwymp bron dair gwaith yn gynt na’r hyn a welwyd ar draws y Deyrnas Unedig yn gyfan.
“Mae’n cyfraddau cyflogaeth wedi tyfu’n gynt dros y 12 mis diwethaf na chyfraddau’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae anweithgarwch economaidd yng Nghymru hefyd wedi syrthio dros y flwyddyn a chwarter diwethaf.
“Fel llywodraeth sydd o blaid busnes, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau’r amodau economaidd cywir i helpu i greu a diogelu swyddi ar draws Cymru, ac mae’n polisïau yn parhau i ddwyn ffrwyth.”