Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi croesawu Prif Weinidog y Deyrnas Unedig (DU) Theresa May i Gymru heddiw.
Yn ei gyfarfod cyntaf â Theresa May, galwodd Carwyn Jones am lefel deg o gyllid a setliad datganoli priodol a hirdymor i Gymru.
Yn ystod y cyfarfod, pwysleisiodd Prif Weinidog Cymru pa mor bwysig yw parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu dyfodol y diwydiant dur ar gyfer y tymor hir yng Nghymru.
Dywedodd Carwyn Jones hefyd ei bod hi’n hanfodol i Gymru gael cymryd rhan lawn yn y trafodaethau sydd ar fin cael eu cynnal â’r Undeb Ewropeaidd (UE). Galwodd ar Brif Weinidog y DU i sicrhau bydd Cymru yn dal i weld yr un lefelau o gyllid ag y mae’n eu cael o’r UE ar hyn o bryd ar ôl i’r DU adael yr UE.
Wedi’r cyfarfod, dywedodd Carwyn Jones:
“Roedd y cyfarfod heddiw â’r Prif Weinidog Theresa May yn ddechrau adeiladol a phositif i’n berthynas weithio.
“Roedd yn gyfle defnyddiol i siarad yn agored â’r Prif Weinidog am y rôl lawn y bydd rhaid i Gymru gael ei chwarae yn y trafodaethau sydd i ddod ynglŷn â’r telerau i’r DU adael yr UE. Rwy’n galw unwaith yn rhagor ar Lywodraeth y DU i roi sicrwydd y bydd Cymru yn dal i dderbyn y £600 miliwn o gyllid cwbl hanfodol rydyn ni’n ei gael o’r UE ar hyn o bryd ar ôl i’r DU adael.
“Dw i am ganolbwyntio i ddechrau ar sicrhau dyfodol cynaliadwy i ddiwydiant dur Cymru ac mae’n dda iawn gweld bod Mrs May wedi ymrwymo i gefnogi’r diwydiant. Rydyn ni wedi cytuno i barhau i weithio gyda’n gilydd i wneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod ffatrïoedd Tata yn y DU yn aros ar agor a bod swyddi yng Nghymru yn cael eu diogelu.”