Bydd cyfraith newydd i gael gwared ar "ddiwygiadau niweidiol" Llywodraeth y DU i hawliau gweithwyr o fewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig Cymru yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru.
Ac yntau’n datgelu rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 i Aelodau'r Cynulliad, cyhoeddodd y Prif Weinidog y caiff chwe Bil eu cyflwyno dros y flwyddyn nesaf - yn amrywio o sefydlu trethi datganoledig newydd i Gymru i sicrhau gwelliannau ym maes iechyd y cyhoedd, gan sicrhau cyflenwad digonol o dai cymdeithasol drwy ddiddymu'r Hawl i Brynu, a diwygio'r system gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Dywedodd y Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
"Dros y deuddeg mis nesaf, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn sicrhau gwelliannau gwirioneddol i bobl Cymru.
"Ar ôl toriad yr haf, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth hanesyddol i greu’r trethi Cymreig cyntaf ers mwy nag 800 mlynedd – cam sylweddol inni fel Llywodraeth ac i Gymru fel cenedl.
"Byddwn hefyd yn gweithredu i ddileu diwygiadau niweidiol Llywodraeth y DU i hawliau gweithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol amdanynt. Byddwn hefyd yn cyflwyno cyfreithiau newydd i ddiogelu ein stoc tai cymdeithasol, i wella iechyd y cyhoedd, ac i ddiwygio'r system ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol."
Caiff dau Fil Trethi eu cyflwyno i sefydlu'r ddwy dreth i’w datganoli i Gymru ym mis Ebrill 2018; sef y dreth trafodiadau tir, a fydd yn disodli treth dir y dreth stamp (SDLT) bresennol, a threth gwarediadau tirlenwi i Gymru, a fydd yn disodli’r dreth dirlenwi bresennol.
Caiff deddfwriaeth newydd ei chyflwyno i ddiddymu adrannau o Ddeddf Undebau Llafur Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig.
Caiff Bil Iechyd y Cyhoedd ei gyflwyno i sicrhau gwelliannau yn iechyd y genedl. Ni fydd yn cynnwys y cyfyngiadau arfaethedig ar ddefnyddio e-sigaréts mewn mannau caeedig sydd wedi’u cynnwys ym Mil Iechyd y Cyhoedd a gyflwynwyd yn y Cynulliad diwethaf.
Caiff Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol ei gyflwyno yn darparu ar gyfer fframwaith cyfreithiol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc 0-25 oed, sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gan ddarparu gwelliannau i'r gwasanaethau y maent yn eu cael.
Caiff Bil ei gyflwyno i ddiogelu stoc tai cymdeithasol Cymru drwy ddiddymu’r Hawl i Brynu a'r Hawl i Gaffael. Bydd hyn yn sicrhau bod tai cymdeithasol ar gael i'r rhai y mae arnynt eu hangen, ac nad ydynt yn gallu cael gafael ar lety drwy fod yn berchen ar gartref neu drwy’r sector rhentu preifat.