Bydd Cabinet Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfarfod brys heddiw (dydd Llun 27 Mehefin) er mwyn i Weinidogion drafod goblygiadau canlyniad refferendwm yr UE i Gymru.
Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones eisoes wedi nodi chwe blaenoriaeth ar gyfer gweithredu yn ei ymateb cychwynnol i’r canlyniad, ac fe fydd trafodaethau’r Cabinet yn canolbwyntio ar ffyrdd o symud ymlaen yn y meysydd hyn ar unwaith.
Dywedodd Carwyn Jones:
“Dyma un o’r cyfarfodydd Cabinet pwysicaf ers datganoli. Byddwn yn edrych ar werthusiad cychwynnol o’r hyn y gallai olygu i Gymru, ac yn cytuno ar ffyrdd o symud ymlaen gyda’n blaenoriaethau er budd ein gwlad.
“Gosodais fy mlaenoriaethau dydd Gwener, gan gynnwys cydweithio agosach fyth gyda busnesau Cymru i ddiogelu swyddi, edrych eto ar y cysylltiad rhwng y llywodraethau ac ymrwymiad i ddiogelu a chynnal cyllid yr UE yng Nghymru cyn hired â phosib.
“Mae goblygiadau llawn y bleidlais hon yn aneglur iawn o hyd, ac yn mynd i fod felly am gryn dipyn o amser.
“Ond mae un peth yn sicr. Rydyn ni fel Llywodraeth Cymru’n gwbl benderfynol o barhau i ddilyn dull gweithredu rhyngwladol, agored, ac o blaid busnes. Dyna’r ffordd o gynnal hyder busnesau a dyna fydd yn helpu mewnfuddsoddwyr i wneud y penderfyniadau iawn dan yr amodau newydd, ansicr hyn.
“Gadewch i ni beidio ag anghofio’r argyfwng yn y diwydiant dur, yr ydyn ni’n gweithio mor galed o hyd i’w ddatrys. Byddwn yn parhau i weithio gyda Tata a helpu’r gweithwyr dur wrth i ni geisio ateb yr heriau aruthrol sydd wedi’u taflu atom yn sgil canlyniad y refferendwm.”