Heddiw, cafodd Lesley Griffiths, gyfle i flasu cynnyrch gorau Gogledd Cymru yn Sioe Môn, gan sicrhau cynhyrchwyr bod y diwydiant mewn safle cryf i ymateb i heriau Brexit.
Defnyddiodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hamser yn y Sioe i drafod goblygiadau posib canlyniad refferendwm yr UE ar gynllun Enwau Bwyd wedi'u Hamddiffyn (PFN) yr UE.
Ar hyn o bryd mae saith cynnyrch wedi'i amddiffyn gan yr UE yng Nghymru, ac felly mae defnyddwyr yn sicr o safon a dilysrwydd y cynnyrch. Mae cynhyrchwyr hefyd yn manteisio o'r ffaith bod eu cynnyrch wedi'i warchod rhag cael ei efelychu yn y dyfodol ac maent yn dweud bod mantais fawr ganddynt o fod yn rhan o gynllun yr UE.
Cregyn gleision Conwy yw'r cynnyrch Cymreig diweddaraf i ymuno â'r cynnyrch Cymreig elitaidd sydd wedi'u diogelu gan y cynllun. Mae cynnyrch megis Halen Môn a Thatws Newydd Sir Benfro hefyd yn rhan o'r cynllun.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi sicrhau cynhyrchwyr bod Llywodraeth y DU wedi nodi eu bod am gyflwyno cyfraith Brydeinig i ddiogelu statws amddiffyn bwyd a diod unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE, a byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
"Rwyf wedi mwynhau yn fawr yn samplu cynnyrch gorau Gogledd Cymru ac yn cwrdd â chynhyrchwyr gwych o'r rhanbarth cyfan yn y sioe heddiw. Mae gan ogledd Cymru fwyd a diod arbennig o dda ac mae Sioe Môn yn gyfle i ddangos hyn i bawb.
"Mae heddiw hefyd wedi bod yn gyfle arall i mi gwrdd â chynhyrchwyr bwyd a diod i drafod eu pryderon ar ôl penderfyniad y DU i adael yr UE a goblygiadau hyn ar eu busnesau. Ein sector bwyd a diod yw un o'n llwyddiannau economaidd ac rydym yn ymrwymedig i gefnogi'r diwydiant er mwyn adeiladu ar hyn.
"Rwyf am i gynhyrchwyr wybod ein bod yn brwydro i'r DU negodi i gadw mynediad i'r Farchnad Sengl a fyddai'n cefnogi Llywodraeth y DU i gyflwyno cyfraith Brydeinig i ddiogelu statws bwyd a diod wedi'u hamddiffyn.
"Mae cynllun Enwau Bwyd wedi'u Hamddiffyn yr UE yn cynnwys cynnyrch cofrestredig o du allan i'r UE, gan gynnwys o Tsieina a Gwlad Thai, felly mae hefyd achos cryf i negodi ein bod yn parhau yn rhan o'r cynllun hwn a byddwn yn annog Llywodraeth y DU i wneud hyn."