Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi dyfarnu statws enw bwyd gwarchodedig i Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd, sy'n golygu eu bod yn ymuno â chynhyrchion fel Caws Caerffili, Halen Môn a Chig Oen Cymru.
Cyflwynwyd y cais gan Grŵp Eirin Dinbych oherwydd mai dyma'r unig fath brodorol o eirin yng Nghymru ac oherwydd bod mwy a mwy ohonynt wedi bod yn cael eu tyfu yn yr ardal yn ystod y degawd diwethaf.
Eirin Dinbych yw'r unfed ar bymtheg ar y rhestr o gynhyrchion o Gymru sydd wedi ennill statws enw bwyd gwarchodedig, a dyma'r ffrwyth cyntaf yn eu plith.
Mae Cynllun yr UE yn cydnabod cynhyrchion bwyd a diod o ansawdd ac mae’n rhaid iddynt ragori ar feini prawf llym er mwyn bod yn gymwys i gael y statws hwn. Unwaith y mae cynhyrchion bwyd a diod wedi cael statws enw bwyd gwarchodedig o dan Gynllun yr UE, maent yn cael eu gwarchod ledled Ewrop rhag unrhyw ymgais i'w hefelychu neu eu camddefnyddio ac yn cael eu gwarchod hefyd rhag twyll.
Bydd y statws Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO), sy'n rhan o un o dri dynodiad arbennig a roddir gan yr Undeb Ewropeaidd o dan y cynllun Enw Bwyd Gwarchodedig, yn helpu hefyd i godi proffil tref Dinbych a'r cyffiniau.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Defra i sicrhau y bydd yr Enwau Bwyd a Warchodir ar hyn o bryd yn parhau i gael eu gwarchod unwaith y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Maent am wneud hynny drwy greu cynllun newydd â'r un manteision â'r cynllun Ewropeaidd presennol.
Bydd y cynllun newydd yn sicrhau bod yr hanes o lwyddiant sydd gan Gymru o ran Enwau Bwyd Gwarchodedig yn parhau yn y dyfodol, a bydd yn cynnig cymorth hanfodol wrth i gynllun newydd gan y DU ddisodli Cynllun yr UE. Bydd y cynllun yn parhau hefyd i helpu cynhyrchwyr yng Nghymru i ennill y statws yr UE o dan delerau newydd unwaith y byddwn wedi gadael Ewrop.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhoi cymorth ers chwe blynedd a mwy i gynhyrchwyr bwydydd sydd â statws Enw Bwyd Gwarchodedig. Y rhaglen hon, sy'n cael ei hariannu ganddi, sy'n rhannol gyfrifol am lwyddiant Cymru yn ystod y degawd diwethaf o ran datblygu cynhyrchion sy'n ennill y statws hwn.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
“Dwi'n arbennig o falch bod Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd wedi cael yr anrhydedd o ennill statws enw bwyd gwarchodedig, a dwi'n gobeithio y bydd yn rhoi cryn hwb i fusnesau yn yr ardal.
“Gyda Brexit yn prysur agosáu, rydyn ni'n benderfynol o gefnogi busnesau bwyd a diod Cymru ac o sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnyn nhw mewn marchnad lle mae'r amodau'n dipyn o her.
“Dylai'r teitl hwn, sy'n un mawr iawn ei fri, helpu i gryfhau enw Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd a chaniatáu iddyn nhw hyrwyddo'r brand, nid dim ond yng Nghymru ei hun, ond ledled Ewrop ac ar draws marchnadoedd eraill hefyd.
“Rydyn ni'n ymfalchïo yn y ffaith bod cynifer o fusnesau bwyd a diod o Gymru wedi llwyddo i ennill statws enw bwyd gwarchodedig. Mae'n tystio i ansawdd uchel a natur unigryw yr hyn sydd ganddyn nhw i’w gynnig.”
Dywedodd Peter Jones, cadeirydd Grŵp Eirin Dinbych:
“Nid dim ond Dinbych ei hun fydd ar ei hennill. Bydd Dyffryn Clwyd i gyd yn elwa ar hyn.
“Dros y deng mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd rhyfeddol yn yr eirin sy'n cael eu tyfu yn yr ardal, ac mae'n wych gweld bod ansawdd y cynnyrch yn cael ei gydnabod ledled Ewrop.
“Rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu ers tro byd i ennill statws enw bwyd gwarchodedig, a'n bwriad 'nawr yw hoelio'n sylw ar hyrwyddo Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd a helpu gyda'r ymdrechion i'w tyfu yn yr ardal.”