Mae cosbau penodedig newydd i helpu i atal gwastraff cartref rhag cael ei dipio'n anghyfreithlon wedi cael eu pasio yn y Cynulliad ac yn dod i rym yfory.
O dan y ddyletswydd gofal sy'n ymwneud â gwastraff, mae'n ofynnol i aelwydydd sicrhau bod gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu yn eu heiddo yn cael ei drosglwyddo i berson awdurdodedig i'w waredu, a gallant gael eu herlyn os na fyddant yn gwneud hyn. Fodd bynnag, nid dwyn achos llys yn erbyn rhywun yw'r ymateb mwyaf priodol bob tro ar gyfer y math hon o drosedd, a gall gymryd llawer o amser ac ymdrech.
Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:
"Gwyddom fod dros 60% o wastraff sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon yn dod o aelwydydd. Fodd bynnag, yn aml nid y bobl eu hunain sydd wedi tipio'r gwastraff, ond mae nhw wedi methu â sicrhau eu bod nhw wedi rhoi'r gwastraff i'r bobl gywir i'w waredu.
"Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i atal ein gwastraff rhag mynd i'r dwylo anghywir, a bydd y rheoliadau hyn yn cynnig ffordd arall i gynghorau a Chyfoeth Naturiol Cymru fynd i'r afael â'r mater.
"Ymgynghorwyd yn helaeth ar y cynigion hyn, a chafwyd cefnogaeth eang. Gofynnodd awdurdodau lleol a ymatebodd am ddull gweithredu cenedlaethol, cyson o ran pennu cosbau, ac ar i lefel y gosb fod yn gymesur â'r drosedd.
"Fodd bynnag, rydym yn cydnabod na fydd pawb yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o ran dyletswydd gofal ac felly rydym yn datblygu ymgyrch i helpu pobl i ddeall eu rhwymedigaethau."
Drwy ddefnyddio cosbau penodedig, bydd hyn yn caniatáu awdurdodau lleol i gael system orfodi mwy effeithlon, a bydd hyn nid yn unig yn rhyddhau adnoddau y mae mawr eu hangen, ond gall hefyd helpu i fod yn ffordd effeithiol o atal hyn rhag digwydd.
Mae'r rheoliadau wedi pennu cosb benodedig o £300 ac mae gan yr awdurdodau gorfodi y disgresiwn i gynnig yr opsiwn o dalu £150 yn gynnar. Gall cynghorau gadw'r derbyniadau i helpu i gyfrannu tuag at y costau o ymdrin â chosbau gwastraff. Bydd dal ganddynt yr opsiwn i arfer eu pwerau erlyn presennol ar gyfer troseddau y maent yn credu sy'n gofyn am gosb benodedig.