Bydd Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd, yn lansio'r ymgyrch Ail-lenwi Caerdydd heddiw, fydd yn ei gwneud yn haws i gael dŵr tap am ddim mewn mannau cyhoeddus ledled y ddinas.
Caerdydd yw'r ddinas neu'r dref ddiweddaraf yng Nghymru i ymuno â'r ymgyrch ail-lenwi. Bydd busnesau sy'n cymryd rhan yn cofrestru ar yr ap Ail-lenwi ac yn rhoi sticer ar eu ffenestr i ddangos i bobl sy'n mynd heibio bod croeso iddynt lenwi eu potel ddŵr am ddim.
Bydd 'Ail-lenwi Caerdydd' yn cael ei lansio heddiw yn y Llyfrgell Ganolog. Yn dilyn y digwyddiad, bydd grŵp o wirfoddolwyr yn ymweld â busnesau yn y ddinas i annog mwy i ymuno â'r ymgyrch.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynllun cenedlaethol Dinas i'r Môr, gyda dros 600 o orsafoedd ail-lenwi eisoes wedi cofrestru ledled Cymru a mwy yn ymuno pob wythnos. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu fersiwn Gymraeg o'r ap Ail-lenwi.
Mae Prifysgol Caerdydd yn 'hyrwyddwr' Ail-lenwi. Mae Sefydliad Ymchwil Dŵr y Brifysgol, sy'n cynnal gwaith ymchwil ar 'blastig mewn dŵr croyw', yn anelu at gael pob gorsaf ddŵr ar y campws i gofrestru ar yr ap ac yn annog sefydliadau eraill ledled y ddinas i ymuno âr cynllun. Mae Cyngor Caerdydd wedi ychwanegu adeiladau cyhoeddus hefyd i'r ap, megis llyfrgelloedd neu adeiladau yr Hyb.
Mae 86 o orsafoedd Ail-lenwi yn ardal Caerdydd ar hyn o bryd. Mae ail-lenwi yn helpu i sicrhau bod dŵr tap ar gael yn haws mewn mannau cyhoeddus fel hybiau trafnidiaeth, canolfannau siopa ac adeiladau cyhoeddus.
Meddai Hannah Blythyn:
"Mae sicrhau bod dŵr yfed ar gael yn haws yn ffordd syml o dorri i lawr ar blastig untro ac mae'n llawer gwell i'r amgylchedd.
Yn gynharach eleni cyhoeddais fy uchelgais i weld Cymru yn 'Genedl Ail-lenwi' gyntaf y byd, ble y mae gofyn am gael ail-lenwi potel ddŵr yn rhywbeth normal i'w wneud, felly mae'n beth da iawn gweld ein prifddinas yn ymuno â'r cynllun."
Meddai Hannah Osman, Cydlynydd Ail-lenwi Cymru:
"Mae'n gyffrous iawn gweld Ail-lenwi Caerdydd yn ymuno â'r ymgyrch Ail-lenwi ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy ein gwneud yn llai dibynnol ar plastig untro. Bob tro rydyn ni'n ail-lenwi potel, rydym yn arbed ein harian ac adnoddau y blaned, ac mae'r holl achosion unigol o ail-lenwi yn gwneud gwahaniaeth enfawr.
Mae'n wych gweld cynifer o fusnesau lleol yn cefnogi Ail-lenwi Caerdydd drwy gofrestru i ail-lenwi am ddim."
Meddai yr Athro Isabelle Durance, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Abertawe:
"Mae'n gyffrous iawn hyrwyddo'r ymgyrch Ail-lenwi yng Nghaerdydd. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i leihau ei defnydd o ynni, dŵr a phlastig. Mae cynlluniau syml ond effeithiol megis Ail-lenwi yn ffordd wych o wneud hyn, ond efallai, yn bwysicach, i'n gwneud yn fwy ymwybodol o'r angen i reoli ein hadnoddau naturiol yn well.
Yn ogystal â hyrwyddo'r ymgyrch, rydym yn darparu gorsafoedd ail-lenwi dŵr yn nifer o'n hadeiladau ar y campws, gan rymuso staff, myfyrwyr a'r gymuned gyfan i ofalu am ein hamgylchedd, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Meddai'r Cynghorydd Michael Michael, Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd ar Gyngor Caerdydd:
"Nawr bod yr ap wedi'i lansio, bydd trigolion ac ymwelwyr Caerdydd yn gallu gweld yn union ble y mae'n bosibl iddyn nhw ail-lenwi eu poteli plastig yn y ddinas ar eu ffonau clyfar. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i leihau y defnydd o blastig untro, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i barhau i ehangu'r cynllun."