Mae Hannah Blythyn wedi cyhoeddi wyth o brosiectau newydd heddiw ledled Cymru i leihau gwastraff a chynyddu faint o ddeunydd yr ydym yn eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu.
Bydd rhai o'r prosiectau yn gwella cyfleusterau i drwsio neu adnewyddu eitemau nad oes neb eu heisiau. Bydd 'Sied Werdd' newydd ym Mae Colwyn yn gweld y gymuned leol yn paratoi eitemau i gael eu hail-ddefnyddio. Bydd ail 'canolfan ailddefnyddio' Rhondda Cynon Taf yn agor yn Nhreherbert, ochr yn ochr â chanolfan bresennol yn Llantrisant, ble yr aeth y Gweinidog heddiw. Bydd canolfan ailddefnyddio newydd hefyd yn agor yn ardal Maendy yng Nghasnewydd.
Yn Sir Benfro, bydd prosiect treialu Ysgolion Diwastraff yn darparu cyfleusterau ailgylchu newydd mewn 24 ysgol yn y sir, i ailgylchu mwy o wastraff o ysgolion tra'n annog y disgyblion i leihau gwastraff neu gael gwared arno yn gyfrifol.
Bydd cyllid ar gael hefyd i Sir Ddinbych, Merthyr Tudful, Sir Fynwy a Blaenau Gwent, gan gynnwys cyfleusterau ailddefnyddio newydd a gwelliannau i wasanaethau casglu gwastraff.
Meddai Hannah Blythyn:
"Un o'r ffyrdd gorau o leihau gwastraff yw trwsio ac ail-wneud eitemau fel bod modd iddynt gael eu hailddefnyddio, a bydd rhai o'r prosiectau hyn yn gwella cyfleusterau er mwyn galluogi hyn. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn prosiect peilot i ysgolion i leihau gwastraff a sefydlu arferion da o oedran ifanc.
"Os nad oes modd ailddefnyddio deunyddiau, y dull gorau wedi hynny yw ailgylchu, felly rydym hefyd yn buddsoddi yn y beirianneg i wella ailgylchu.
"Cymru yw'r wlad orau yn y DU, yr ail yn Ewrop a'r drydedd yn y byd am ailgylchu o gartrefi, felly mae ein tystiolaeth yn dweud y cyfan. Mae cyfran y gwastraff yr ydym yn ei ailgylchu yng Nghymru wedi cynyddu'n ddramatig, o 5% yn 1999 i 63% y llynedd.
"Bydd yr amrywiol brosiectau newydd nid yn unig yn helpu i leihau gwastraff yn y blynyddoedd a ddaw, ond dylai arwain at newid diwylliannol yn yr hirdymor, gan ein helpu i gyflawni ein huchelgais o fod yn 'Genedl Ddiwastraff' erbyn 2050."
Ymhlith y prosiectau llwyddiannus mae:
- £500,000 i Gyngor Sir Benfro i gefnogi menter Ysgolion Diwastraff.
- £1,020,000 i Gynghorau Sir Conwy/Dinbych i gefnogi mentrau gan CREST
- £1,175,000 i Gyngor Dinas Casnewydd i gefnogi mentrau gan Wastesavers
- £900,000 i Gyngor Sir Ddinbych
- £541,000 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
- £120,000 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- £646,375 i Gyngor Sir Fynwy
- £490,000 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful