Cyflwyno rheoliadau i fynd i’r afael â llygredd amaethyddol ar lefel Cymru Gyfan yw’r peth iawn a chyfrifol i’w wneud.
Bydd y Rheoliadau newydd yn ffurfioli’r arferion da y mae llawer o ffermwyr ledled y wlad eisoes yn eu dilyn.
Mae hyn oll yn dilyn haeriad yr FUW fod y cyhoeddiad i gyflwyno’r rheoliadau y gwanwyn nesaf yn orymateb difeddwl i sylw diweddar y cyfryngau i’r mater. Haerodd yr FUW yn ogystal nad yw Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i gydweithio.
Fel ymateb, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ysgrifennu at yr FUW gan ymwrthod yn chwyrn â’i haeriadau. Maen nhw meddai yn tynnu sylw oddi wrth graidd y broblem sef llygredd ffermydd.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
“Nid problem newydd mo llygredd amaethyddol. Er gwaetha ymdrechion diweddar i ddatrys y broblem trwy fesurau gwirfoddol, mae nifer yr achosion o lygredd yn cynyddu, gyda thros 100 yn cael eu cofnodi bob blwyddyn ers sawl blwyddyn bellach.
“Mae aelodau pryderus o’r cyhoedd yn anfon lluniau a llythyrau ata i bob wythnos bron ym misoedd yr hydref a’r gaeaf.
“All hyn ddim parhau. Rwy wedi pwyso a mesur y sefyllfa’n ofalus a phwyllog ac wedi dod i’r casgliad nad yw mesurau gwirfoddol yn ddigon. Byddai’n anghyfrifol tost ohona’i fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i anwybyddu’r lluniau a’r adroddiadau rwy’n eu cael.
“Mae’n amlwg imi fod gan bob mudiad sy’n arwain y diwydiant amaeth ran i’w chwarae yn hyn o beth a rhaid iddo ysgwyddo’r rôl honno.
“Trwy gwestiynau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydweithio, mae’r FUW o leiaf ac efallai’n fwriadol yn tynnu sylw oddi wrth graidd y broblem. Mae llygredd amaethyddol yn broblem â’r diwydiant ac yn y pen draw, yn broblem na all neb arall heblaw’r diwydiant amaeth, gyda help y Llywodraeth ac eraill, ei datrys.
“Mae fy mhenderfyniad yn seiliedig ar ddadansoddiad o nifer o ymgynghoriadau, adroddiad is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru a gwaith rhanddeiliaid pwysig eraill.
“Rwyf wedi rhoi ystyriaeth ddwys i adroddiad yr is-grŵp, a’i waith wedi hynny, wrth ddod i mhenderfyniad i gyflwyno rheoliadau. Bydda i’n parhau i weithio mewn partneriaeth â phawb sydd am weithio gyda fi i helpu i ddatrys problem llygredd amaethyddol.
“Rhaid i bawb yn ddiwahân sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth Cymru ddwyn i gyfrif y lleiafrif sydd oherwydd eu hymddygiad annerbyniol, yn cael effaith ddinistriol ar ein hamgylchedd, ar enw da’r sector amaethyddol ac o bosib, a ninnau’n camu tuag at Brexit, ar werthoedd ein brand.”