Bydd yn ofynnol i ddatblygiadau eiddo newydd ddefnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy, neu SDCau, o’r flwyddyn nesaf ymlaen, yn dilyn rheoliadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Bydd prosiect Coedwig Canmlwyddiant Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys gwaith i blannu coed mewn modd creadigol i goffáu y milwyr a fu farw yn ystod y Rhyfel.
Mae SDCau yn defnyddio'r dirwedd a llystyfiant naturiol i reoli llif dŵr wyneb ac i leihau'r risg o lifogydd. Gall dyluniadau gynnwys pyllau dŵr, palmentydd hydraidd a phantau sy'n arafu llif dŵr wyneb yn fwy na phibellau draenio confensiynol.
Gall dŵr wyneb ffo hefyd achosi llygredd arwyddocaol yn uniongyrchol a thrwy garthffosydd yn gorlifo i afonydd. Mae SDCau wedi'u dylunio nid yn unig i wella ansawdd dŵr ond hefyd i fod yn fwy cryf ac i bara'n hirach na systemau draenio confensiynol.
Fel rhan o'r rheoliadau, bydd Cyrff Cymeradwyo SDCau yn cael eu sefydlu ym mhob awdurdod lleol i gymeradwyo cynlluniau draenio. Bydd gan y Cyrff hyn neu'r awdurdodau cynllunio lleol y pŵer i gyflwyno hysbysiadau gorfodi i ddatblygwyr nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion. Bydd gan ddatblygwyr yr hawl i apelio i Lywodraeth Cymru yn erbyn penderfyniad y Corff Cymeradwyo.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn:
“Mae llifogydd a achosir gan ddŵr wyneb yn gallu cael effaith ddinistriol ar gymunedau a'n heconomi. Mae'r llifogydd diweddar yr ydym wedi'u gweld mewn ardaloedd yng Nghymru wedi pwysleisio'r angen i addasu i heriau newid hinsawdd.
"Mae tua 163,000 o eiddo yng Nghymru yn wynebu risg o lifogydd dŵr wyneb. Gall defnyddio systemau draenio cynaliadwy arwain at leihad o ryw 30% yn y difrod a achosir gan lifogydd.
"Mae'r nifer sy'n defnyddio SDCau wedi bod yn isel hyd yma. Bydd y rheoliadau hyn yn helpu i leihau'r risg o lifogydd ac i wella ansawdd dŵr, gan roi cartrefi i fywyd gwyllt o fewn datblygiadau tai newydd ar yr un pryd".