Mae Lesley Griffiths wedi cyhoeddi ymgynghoriad yn y Flwyddyn Newydd ar effaith gwahardd gwerthu cŵn a chathod bach trwy drydydd parti.
Wrth annerch Cinio Gala RSPCA Cymru yn y Pierhead nos Lun (5 Tachwedd), dywedodd Lesley Griffiths bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella safonau lles cŵn bach.
Bydd yr ymgynghoriad yn casglu tystiolaeth ynghylch pryd y dylai’r Llywodraeth ymyrryd ar safleoedd bridio mawr a mynd i’r afael â phryderon ynghylch lles anifeiliaid.
Mae hyn yn dilyn addewid gan Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach eleni i ystyried gwahardd gwerthu cŵn bach trwy drydydd parti.
Dywedodd Lesley Griffiths:
“Mae Cymru wedi dangos y ffordd o ran deddfwriaeth i ddiogelu lles anifeiliaid ac rydyn ni’n benderfynol o godi safonau perchenogion cyfrifol.
“Rwy’n gwybod bod yna bryderon ynghylch lles anifeiliaid ar rai o’r safleoedd bridio mawr hyn ac rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ymchwilio sut y gallai gwaharddiad leddfu rhai o’r pryderon hynny.
“Mae deall y gadwyn cyflenwi cŵn bach yn arbennig o bwysig yn y broses hon. Pryd yn y gadwyn y câi ymyrraeth y Llywodraeth ei heffaith fwyaf? Ar y dechrau neu’r diwedd? Neu’r ddau? Mae’n gwbl hanfodol ein bod, wrth newid deddfwriaeth, yn mynd i’r afael â gwir achos unrhyw bryderon ynghylch lles anifeiliaid a byddaf yn lansio ymgynghoriad yn fuan yn y Flwyddyn Newydd.”