Bydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn derbyn £46,000 i hyrwyddo Iechyd a Diogelwch o fewn y sector amaethyddol a choedwigaeth, meddai Lesley Griffiths heddiw.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ymgyrch y Bartneriaeth 'Cydweithio i wneud ffermio'n fwy diogel'.
Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet y cyhoeddiad wrth iddi gyfarfod pedwar Mentor Iechyd a Diogelwch newydd Cyswllt Ffermio yn y Sioe Frenhinol. Bydd y mentoriaid yn helpu unigolion a busnesau i nodi'r risgiau, dileu'r peryglon a lleihau'r risg o ddamweiniau o fewn y busnes.
Mae rhaglen fentora Cyswllt Ffermio wedi bod yn rhedeg am ddwy flynedd ac mae dros 100 o ffermwyr a choedwigwyr eisoes wedi defnyddio'r gwasanaeth, gan olygu cyfanswm o dros 750 o oriau o gymorth rhwng cymheiriaid.
Trist iawn yw'r cyfanswm o 144 o ddamweiniau angheuol i weithwyr o Brydain yn 2017/18, gydag amaethyddiaeth yn gyfrifol am 29% o'r marwolaethau. Mae miloedd mwy wedi dioddef anafiadau difrifol a salwch sy'n gysylltiedig â gwaith.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Mae iechyd a diogelwch ar ffermydd o bwysigrwydd mawr. Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn chwarae rhan allweddol i helpu i leihau y nifer annerbyniol o ddamweiniau difrifol a marwolaethau sy'n digwydd ar ffermydd ledled Cymru bob blwyddyn.
"Rwyf felly'n falch iawn o allu cyhoeddi £46,000 ar gyfer y Bartneriaeth i hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a diogelwch drwy eu cynllun 'Cydweithio i wneud ffermio'n fwy diogel'.
"Mae diogelwch ar fferm yn ffordd o fyw, nid slogan yw. Ni ddylem golli golwg ar y ffaith, fel gydag unrhyw sector arall o ddiwydiant neu fusnes, bod iechyd a diogelwch y gweithle ac unrhyw fesurau a chostau sy'n gysylltiedig â gwneud y fferm yn ddiogel yn broblem ac yn gyfrifoldeb ffermydd unigol.
“Fuodd hi erioed yn bwysicach i ffermwyr edrych ar yr hyn sydd gan Cyswllt Ffermio i'w gynnig ichi.
"Mae rhaglen fentora Cyswllt Ffermio yn rhaglen fentora sydd â hanes o gynnig cymorth gwerthfawr i helpu unigolion a busnesau nodi risgiau, dileu peryglon a lleihau'r perygl o ddamweiniau yn y busnes. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â pedwar o fentoriaid iechyd a diogelwch yn y Sioe heddiw, ac i glywed am eu penderfyniad i ledaenu'r neges ynghylch pwysigrwydd iechyd a diogelwch ar ffermydd."