Mae Lesley Griffiths wedi datgan y bydd Sioe eleni yn chwarae rhan allweddol yn y sgwrs genedlaethol ar ddyfodol cymorth i ffermwyr yng Nghymru.
Yn sgil cyhoeddi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei rhaglen Rheoli Tir newydd ychydig o wythnosau cyn y Sioe mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno sbarduno sgwrs er mwyn llywio dull penodol ar gyfer Cymru.
Dros y dyddiau nesaf bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynychu dros ddeugain o ddigwyddiadau yn y Sioe, a bydd yn gwrando ar sylwadau ffermwyr, cynrychiolwyr o'r diwydiannau bwyd a choedwigaeth, Undebau a sefydliadau partner ynghylch y cynigion.
Caiff y rhaglen newydd ei rhannu'n ddau gynllun mawr a hyblyg - y Cynllun Cadernid Economaidd a'r Cynllun Nwyddau Cyhoeddus.
Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnal sesiynau galw heibio yn y stondin, gan roi cyfle i ffermwyr a'r cyhoedd glywed mwy am yr ymgynghoriad a mynegi eu barn.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Bydd Sioe eleni yn sioe bwysig iawn. Dyma'r Sioe olaf cyn i ni adael yr Undeb Ewropeaidd a dyma fydd un o'r cyfleoedd mawr olaf i mi drafod â ffermwyr a sefydliadau partner ar raddfa eang.
"Hoffwn fanteisio ar gyfleoedd yn ystod y Sioe eleni i siarad â chymaint â phosibl o bobl a chynnal sgwrs genedlaethol ynghylch yr ymgynghoriad a lansiwyd pythefnos yn ôl ynghylch ein cynigion i gefnogi ffermwyr a rheolwyr tir ar ôl Brexit.
"Golyga Brexit y bydd yn rhaid i ni wneud pethau mewn ffordd wahanol. Yn syml, nid yw cadw'r sefyllfa bresennol yn opsiwn.
"Mae'r ffordd rydym yn rheoli ein tir yn bwysig, ac yn enwedig er mwyn sicrhau canlyniadau pwysig i bawb yng Nghymru. Nid yw'r PAC presennol yn ein helpu i gyflawni'r canlyniadau hyn ac nid yw wedi'i gynllunio i sicrhau ein bod yn elwa i'r eithaf ar ein tir.
"Mae gennym gyfle yn awr i sefydlu systemau cymorth Cymreig a all sicrhau manteision eang. Nod ein cynigion yw cadw ffermwyr yn ffermio ar eu tir a gweld y sector yn ffynnu mewn byd ar ôl Brexit.
"Dyma'n cyfle i sicrhau consensws newydd ynghylch swyddogaeth ffermwyr yng Nghymru. Mae’n ymgynghoriad pwysig a fydd yn parhau am 16 wythnos ac a fydd yn sail i'n cynlluniau. Hoffwn glywed barn ffermwyr a rheolwyr tir unigol ar draws Cymru a byddwn yn annog pawb i fynegi eu barn dros y misoedd nesaf."
Ym mrecwast Hybu Cig Cymru heddiw bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi gwerth £9.2 miliwn o gyllid o'r Rhaglen Datblygu Gwledig i gefnogi Menter Strategol Hybu Cig Cymru sef 'y Rhaglen Datblygu Cig Coch'.
I gyd-fynd â'r gwaith yma o fewn y sector cig coch bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn cyhoeddi gwerth £6.5m o gyllid ar gyfer cyflenwi dau brosiect a fydd yn sicrhau bod sector llaeth Cymru'n fwy cydnerth ac yn fwy proffidiol.
Ddydd Mawrth bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar faes y Sioe er mwyn ceisio sicrhau eglurder ar frys ynghylch cyllid ar gyfer ffermwyr Cymru yn y dyfodol.
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Rhaid iddyn nhw gadw at yr addewidion a wnaed yn ystod y refferendwm na fyddai Cymru'n colli ceiniog am fod y DU yn gadael yr UE. Yn anffodus, nid yw'r sefyllfa yn eglur o hyd, a hynny ddwy flynedd yn ddiweddarach.
"Byddaf yn codi'r mater hwn â Michael Gove unwaith eto pan fyddai'n cyfarfod ag ef yn y Sioe ddydd Mawrth. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gadarnhau ar frys a fydd Cymru'n cynnal ei chyfran bresennol o gyllid. Byddai hynny'n gwbl deg ac yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen ar y diwydiant."